Peter Berresford Ellis

Awdur toreithiog o Sais yw Peter Berresford Ellis (ganed 10 Mawrth 1943) sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau Saesneg am y Celtiaid ac hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth y gwledydd Celtaidd. Cyhoeddai hefyd nofelau a straeon byrion dan y ffugenwau Peter MacAlan a Peter Tremayne.

Peter Berresford Ellis
FfugenwPeter MacAlan, Peter Tremayne Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Coventry Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, hanesydd, nofelydd, beirniad llenyddol, cofiannydd Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth arswyd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol Edit this on Wikidata

Ganed yn Coventry, Swydd Warwick. Astudiodd yng Ngholeg Celf Brighton ac ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain.[1] Gweithiodd yn ohebydd ieuaf i bapur newydd wythnosol y Brighton Herald o 1960 i 1962, yn ddirprwy olygydd yr Irish Post yn 1970, ac yn olygydd y Newsagent & Bookshop o 1974 i 1975. Bu'n gadeirydd ar Scrif-Celt, yr ŵyl lyfrau Geltaidd, yn 1985 ac yn 1986.[2]

Fe'i urddwyd yn fardd Gorseth Kernow yn 1987.[1]

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Ellis, Peter Berresford 1943–" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Rhagfyr 2019.
  2. (Saesneg) "ELLIS, Peter Berresford" yn y Writers Directory (2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Rhagfyr 2019.