Peter Christian Asbjørnsen

Ysgolhaig ac awdur a arbenigai yn llên gwerin Norwy oedd Peter Christian Asbjørnsen (15 Ionawr 18126 Ionawr 1885).

Peter Christian Asbjørnsen
FfugenwClemens Bonifacius Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Ionawr 1812 Edit this on Wikidata
Christiania Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 1885 Edit this on Wikidata
Christiania Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Oslo
  • Q110874390 Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, botanegydd morol, awdur plant, coedwigwr, casglwr straeon Edit this on Wikidata

Ganed Asbjornsen yn Christiana (Oslo) yn 1812, yn fab i saer coed. Gwandawai chwedlau gwerin yng ngweithdy ei dad. Roedd y prentisiaid a weithiai yno yn dod o bob cwr o Norwy ac felly daeth yn gyfarwydd â thraddodiadau Norwy gyfan. Yn 1824 cafodd ei anfon gan ei dad i ysgol wledig yn Norderhov, ger Christiana, profiad a ddyfnhaodd ei gariad at draddodiadau Norwy a'i bywyd cefn gwlad. Yno hefyd y cyfarfu â'i ffrind Jørgen Engebretsen Moe.

Gyda Moe, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr, a ystyrir yn glasur fel casgliad chwedlau gwerin a hefyd am ei le mewn llenyddiaeth Norwyeg.