Jørgen Engebretsen Moe

Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 181327 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.

Jørgen Engebretsen Moe
Ganwyd22 Ebrill 1813 Edit this on Wikidata
Hole Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1882 Edit this on Wikidata
Kristiansand Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, offeiriad, ysgrifennwr, arbenigwr mewn llên gwerin, awdur plant, diwinydd, casglwr straeon, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
SwyddQ115862466 Edit this on Wikidata
TadEngebret Olsen Moe Edit this on Wikidata
PlantMoltke Moe, Ole Falk Moe, Védastine Aubert Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd Urdd Sant Olaf Edit this on Wikidata
llofnod
Clawr argraffiad 1878 o Norske folke og huldre-eventyr

Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.

Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.

Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).

Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:

  • Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)

Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,

  • Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)