mwelydd Prydeinig oedd Peter Falconio a ddiflannodd yn niffeithdra Awstralia yng Ngorffennaf 2001, tra'n teithio efo'i gariadferch Joanna Lees. Mae pobl yn rhagdybio ei fod wedi marw. Roedd Peter yn 28 oed pan ddiflannodd ac roedd yn dod o Hepworth, Huddersfield, Swydd Efrog. Roedd Peter yn raddedig o Brifysgol Brighton. Er nad yw ei gorff wedi cael ei ffeindio, cyhuddwyd Bradley John o'i lofruddiaeth yn 2005. Mae'r achos wedi denu llawer o sylw o gwmpas y byd.

Peter Falconio
Ganwyd1973 Edit this on Wikidata
Bu farw2001 Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Brighton Edit this on Wikidata
Alice Springs, Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia

Llofruddiaeth neu ar goll?

golygu

Roedd yna lawer o amheuaeth ynglŷn â beth ddigwyddodd i Peter Falconio. Tra'n teithio yn agos i Alice Springs yn Nhiriogaeth y Gogledd ym mis Gorffennaf 2001, roedd y pâr wedi stopio'u cerbyd wrth weld dyn diethr yn arwyddo fod ganddo broblem efo'i gar. Ar ôl iddo adael ei gerbyd, clywodd Lees ddryll yn tanio. Credodd hi ei fod e'n farw. Dywedodd hi fod yr ymosodwr wedi ei chlymu hi a'i rhoi mewn cerbyd arall. Ar ôl trafeilio ychydig yng ngherbyd yr ymosodwr, dihangodd o'r cerbyd i'r cloddiau tra cheisiodd yr ymosodwr ei ffeindio.