Un o ddialogau'r athronydd Groegaidd Platon yw Phaedon neu ar anfarwoldeb yr enaid (Groeg: Φαίδων ἢ περὶ ψυχῆς). Mae'n disgrifio oriau olaf Socrates yn y carchar, cyn cael ei ddienyddio trwy ei orfodi i yfed gwenwyn.

Mae'r dialog yn trafod anfarwoldeb yr enaid, yn cynnwys y syniad o ail-enedigaeth, ar ffurf trafodaeth rhwng Equecrates a Phedon o Elis yn ninas Flius. Ar gais Equecrates, mae Phaedon yn adrodd yr hanes am oriau olaf a marwolaeth Socrates, yn cynnwys ei drafodaethau a'i gyfeillion Simmias a Cebes.

Llyfryddiaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.