Enaid
Mewn llawer o draddodiadau crefyddol a mytholegol, yr enaid yw hanfod y person byw, hanfod neu'r ysbryd nad yw'n rhan o'r corff ei hun. Mae tarddiad y gair Cymraeg yn hen iawn: Celteg: anatlo, "anadl", Indo-Ewropeg: ana; Lladin: anima) a gellir ei gymharu gyda'r gair anadl, sydd o'r un gwraidd. Felly hefyd y gair Hebraeg, נפש (nephesh), "anadl angenrheidiol" a daw'r gair Groeg ψυχή (psychē, seice), o'r ystyr "bywyd, ysbryd, chwythu". Mae'r enaid yn cynnwys y gallu meddyliol byw: y rheswm, y cymeriad, teimlad y person, ei ymwybyddiaeth, y cof, y meddwl, ac ati, (mewn gwrthgyferbyniad â'r materol). Yn dibynnu ar y system athronyddol neu gred person, gall enaid fod naill ai'n farwol neu'n anfarwol, dros dro neu'n para am byth.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad crefyddol |
---|---|
Math | y meddwl |
Rhan o | person, termau seicoleg, bod dynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gred yn yr enaid yn hynafol iawn — fe'i ceir yng nghrefydd Yr Hen Aifft er enghraifft — ond fe'i cysylltir yn bennaf heddiw ag athrawiaethau'r crefyddau mawr sefydledig, sef Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth a Bwdhaeth, er bod yr ystyr yn amrywio, yn arbennig yn achos y ddwy olaf. Credir fod gan yr enaid fodolaeth annibynnol ar y corff a'i fod yn bodoli mewn rhyw ffurf neu'i gilydd ar ôl marwolaeth.
Mae eiconiaeth Cristnogaeth yn ei ddarlunio'n aml fel baban newydd-anedig yn cael ei gludo i fyny i'r Nefoedd neu wedi'i lapio mewn lliain, sy'n cynrychioli mynwes Abraham. Yn yr Eglwys Fore mae'r glöyn byw yn ei gynrychioli, fel a welir yn y paentiadau gan Gristnogion cynnar ar furiau'r claddgelloedd, er enghraifft (benthyciad o fytholeg Roeg a'r traddodiad Clasurol). Er bod enaid yn debyg i ysbryd, mae'r Beibl yn gwahaniaethu rhyngddynt (yn y llythyr at y Hebreaid).
Deallai'r athronwyr Groegaidd, megis Socrates, Plato, ac Aristotle, bod yn rhaid i'r enaid (ψυχή psykhḗ) feddu ar gyfadran resymegol, a'i hymarfer oedd y mwyaf dwyfol o weithredoedd dynol. Yn ei brawf amddiffyn, fe wnaeth Socrates hyd yn oed grynhoi ei ddysgeidiaeth fel dim ond anogaeth i'w gyd-Atheniaid ragori ym materion y seici gan fod holl nwyddau'r corff yn dibynnu ar ragoriaeth o'r fath (Ymddiheuriad 30a–b). Ymresymodd Aristotle mai corff ac enaid dyn oedd ei fater a'i ffurf yn y drefn honno: casgliad o elfennau yw'r corff a'r enaid yw'r hanfod. Cymerodd Thomas Aquinas y safbwynt hwn i fewn i Gristnogaeth.
Mewn Iddewiaeth ac mewn rhai enwadau Cristnogol, dim ond bodau dynol sydd ag eneidiau anfarwol (ac eithrio angylion).[2] Er enghraifft, fe wnaeth Thomas Aquinas, a fenthycodd yn uniongyrchol o On the Soul Aristotle, briodoli'r "enaid" (anima) i bob organeb ond dadleuodd mai dim ond eneidiau dynol sy'n anfarwol.[3] Mae crefyddau eraill (yn fwyaf nodedig Hindŵaeth a Jainiaeth ) yn credu mai'r holl bethau byw o'r bacteriwm lleiaf i'r mwyaf o famaliaid yw'r eneidiau eu hunain (Atman, jiva) a bod ganddynt eu cynrychiolydd corfforol (y corff) yn y byd. Yr hunan go iawn yw'r enaid, tra bod y corff yn fecanwaith yn unig i brofi karma'r bywyd hwn. Felly os yw rhywun yn gweld teigr yna mae hunaniaeth hunan-ymwybodol yn byw ynddo (yr enaid), sy'n gynrychiolydd corfforol (corff cyfan y teigr, sy'n weladwy) yn y byd hwn. Mae rhai crefyddau'n dysgu bod hyd yn oed endidau anfiolegol (fel afonydd a mynyddoedd) yn meddu ar eneidiau. Gelwir y gred hon yn Eneidyddiaeth.[4]
Mewn crefydd
golyguDwyrain Agos Hynafol
golyguYn yr hen grefydd Eifftaidd, credid bod unigolyn yn cynnwys gwahanol elfennau, rhai corfforol a rhai ysbrydol. Ceir syniadau cyffelyb mewn hen grefydd Assyriaidd a Babilonaidd. Mae coflechi Kuttamuwa, cerrig bedd angladdol ar gyfer swyddog brenhinol Sam'al o'r 8g CC, yn disgrifio Kuttamuwa yn gofyn i'w alarwyr goffau ei fywyd ar ôl marwolaeth gyda gwleddoedd "er mwyn fy enaid sydd yn y goflech hon". Mae'n un o'r cyfeiriadau cynharaf at enaid fel endid ar wahân i'r corff. Mae'r coflech yn 88 pwys (360 kg) 3 troedfedd (bron i fetr o uchder) allan o'r graig igneaidd basalt.[5]
Y Celtiaid
golyguMae tystiolaeth archaeolegol a chwedlau hynafol yn profi fod gan y Celtiaid a oedd yn meddiannu y rhannau helaethaf o Ewrop rhwng 700 CC a 400 OC gred glir mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
Ceir sawl beddrod Celtaidd pwysig fel claddedigaethau Hochdorf a Vix wedi'u darganfod yn gyfan, gyda chyfoeth o arteffactau, sy'n rhoi cipolwg unigryw i ni ar yr hyn yr oedd y Celtiaid hynafol yn ei ystyried yn angenrheidiol i anfon y meirw ar eu taith i’r byd arall, a elwir yn y llawysgrifau'n 'Afallon'.
Credent mewn bywyd ar ôl marwolaeth yn yr Arallfyd a oedd efallai’n cael ei ystyried yn debyg i'r bywyd hwn ond heb boen, afiechyd a thristwch. Oherwydd hyn, nid oeddent yn ofni marwolaeth gan fod eu henaid yn gadael ei gorff. Credent mai yn y pen y trigai'r enaid. Fel rhan o'u defodau, arferent offrymu bwyd, arfau, a nwyddau gwerthfawr. Roedd aberthu anifeiliaid a phobol i'r duwiau hefyd yn digwydd, mewn seremonïau gyda'r derwyddon, arweinwyr crefyddol cymunedau Celtaidd yn gwasanaethu. Rhan o ddefod o'r math hwn oedd y creiriau a daflwyd i Lyn Cerrig Bach. Credai'r Celtiaid hefyd fod yr enaid yn ailymddangos mewn person arall, ar ôl marwolaeth. Diwedd heb ddiwedd.
Ffydd Baháʼí
golyguMae’r Ffydd Bahá’í (crefydd a sefydlwyd yn y 19g) yn cadarnhau bod “yr enaid yn arwydd o Dduw, yn berl nefol y mae’r mwyaf dysgedig o ddynion wedi methu â’i deall, ac na fyth ddatrys ei ddirgelwch”.[6] Dywedodd Bahá'u'lláh fod yr enaid nid yn unig yn parhau i fyw ar ôl marwolaeth y corff dynol, ond ei fod, mewn gwirionedd, yn anfarwol.[7] Gellir ystyried y nef yn rhannol fel cyflwr lle mae'r enaid agosaf at Dduw; ac uffern fel cyflwr lle mae'r enaid bellaf oddi wrth Duw. Mae pob cyflwr yn dilyn o ganlyniad naturiol i ymdrechion unigol, neu eu diffyg, i ddatblygu'n ysbrydol.[8] Dysgodd Bahá'u'lláh nad oes gan unigolion fodolaeth cyn eu bywyd yma ar y ddaear a bod esblygiad yr enaid bob amser tuag at Dduw ac i ffwrdd o'r byd materol.[8]
Cristionogaeth
golyguYn ôl yr athrawiaeth Gristnogol gyffredin, pan fydd pobl yn marw, bydd eu heneidiau'n cael eu barnu gan Dduw ac yn mynd i'r Nefoedd neu i Uffern (neu'r Isfyd), i aros am yr atgyfodiad. Yn ôl Cristnogion eraill, bywyd ei hun yw'r enaid, a chredant nad oes gan y meirw fywyd tan ar ôl yr atgyfodiad (yr amod Cristnogol). Mae rhai Cristnogion yn credu y bydd eneidiau a chyrff yr anghyfiawn yn cael eu dinistrio yn Uffern yn hytrach na dioddef yn dragwyddol. Bydd credinwyr yn etifeddu bywyd tragwyddol naill ai yn y Nefoedd, neu yn Nheyrnas Dduw ar y ddaear, ac yn mwynhau cymdeithas dragwyddol â Duw.
Tarddiad yr enaid
golyguMae " tarddiad yr enaid " wedi darparu cwestiwn gofidus i Gristnogion. Y prif ddamcaniaethau yw: creadigaeth yr enaid, traducianiaeth, a chynfodolaeth. Yn ôl creadigaeth yr enaid, mae Duw'n creu pob enaid unigol yn uniongyrchol, naill ai ar adeg cenhedlu neu rywbryd yn ddiweddarach. Yn ôl traducianiaeth, daw'r enaid yn naturiol oddi wrth y rhieni. Yn ôl y ddamcaniaeth a elwir yn gynfodolaeth, mae'r enaid yn bodoli cyn yr eiliad o genhedlu. Bu llawer o ddadlau ynghylch a oes gan embrionau dynol eneidiau ar yr eiliad y cat eu cenhedlu, neu a oes pwynt rhwng cenhedlu a genedigaeth lle mae'r ffetws yn cael enaid, ymwybyddiaeth, a phersonoliaeth. Gallai safbwyntiau yn y cwestiwn hwn chwarae rhan mewn dyfarniadau ar ba mor foesol yw erthylu.[9][10][11]
Teiran yr enaid
golyguUn o feddylwyr Cristnogol cynnar mwyaf dylanwadol Cristnogaeth orllewinol oedd Awstin o Hippo (354-430); disgrifiodd yr enaid fel "sylwedd arbennig, wedi'i gynysgaeddu â rheswm, wedi'i addasu i reoli'r corff". Mae rhai Cristnogion yn arddel safbwynt teiran (trichotomy) o fodau dynol, sy'n cynnwys y corff (soma), yr enaid (psyche), a'r ysbryd (niwma).[12] Fodd bynnag, mae mwyafrif ysgolheigion modern y Beibl yn nodi bod y cysyniadau "ysbryd" ac "enaid" yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol mewn llawer o ddarnau Beiblaidd, ac felly'n glynu wrth ddeuoliaeth, nidteiranedd: y farn bod pob bod dynol yn cynnwys corff ac enaid. Dywedodd Paul fod y “corff yn rhyfela yn erbyn” yr enaid, “Oherwydd y mae gair Duw yn fyw ac yn weithgar ac yn llymach nag unrhyw gleddyf daufiniog, ac yn tyllu cyn belled â rhaniad enaid ac ysbryd” (Heb 4:12 NASB), a bod "Rwy'n dyrnu fy nghorff", i'w gadw dan reolaeth".
Barn y gwahanol enwadau
golygu- Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Mae Catecism presennol yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn datgan bod y term enaid
- “yn cyfeirio at yr agwedd fwyaf mewnol [pobl], yr hyn sydd fwyaf gwerthfawr ynddynt, a thrwy'r enaid y maent debycaf i ddelw Duw: mae ‘enaid’ yn dynodi’r egwyddor ysbrydol y ddynoliaeth”.[13]
Bydd pob enaid byw a marw yn cael ei farnu gan Iesu Grist pan ddaw yn ôl i'r ddaear. Mae’r Eglwys Gatholig hefyd yn dysgu bod bodolaeth pob enaid unigol yn dibynnu’n llwyr ar Dduw:
- " Mae athrawiaeth y ffydd yn cadarnhau fod yr enaid ysbrydol ac anfarwol yn cael ei greu ar unwaith gan Dduw."[14]
- Protestaniaeth
Mae Protestaniaid yn gyffredinol yn credu ym modolaeth ac anfarwoldeb yr enaid, ond yn disgyn i ddau ddehongliad o ran bywyd ar ôl marwolaeth. Mae rhai'n dilyn Calvin, yn credu bod yr enaid yn parhau fel ymwybyddiaeth ar ôl marwolaeth.[15] Dilyna eraill Martin Luther, gan gredu bod yr enaid yn marw gyda'r corff, ac yn anymwybodol ("cysgu") hyd at atgyfodiad y meirw.[16][17]
- Adfentyddiaeth
Ceir sawl mudiad crefyddol newydd yn deillio o Adfentyddiaeth — gan gynnwys Cristadelffiaid,[18] Adfentyddion y Seithfed Dydd, a Thystion Jehofa[19] - yn yr un modd yn credu nad yw'r meirw yn meddu ar enaid ar wahân i'r corff a'u bod yn anymwybodol tan yr atgyfodiad.
- Seintiau'r Dyddiau Diwethaf ('Mormoniaeth')
Ym marn Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf mae'r ysbryd a'r corff gyda'i gilydd yn ffurfio Enaid Person (Dynoliaeth). "Yr ysbryd a'r corff yw enaid dyn."[20] Mae Seintiau'r Dyddiau Diwethaf yn credu mai'r enaid yw undeb ysbryd sy'n bodoli eisoes, wedi'i wneud gan Dduw [21][22][23] a chorff dros dro, a ffurfiwyd drwy ei genhedlu ar y ddaear.
Wedi marwolaeth, mae'r ysbryd yn parhau i fyw a chynyddu ym myd yr Ysbryd, hyd yr atgyfodiad, pan mae'n cael ei aduno a'r corff a fu yn gartref iddo ar un adeg. Mae'r aduno corff ac ysbryd hwn yn arwain at enaid perffaith sy'n anfarwol, a thragwyddol, ac yn gallu derbyn cyflawnder o lawenydd.[24][25]
Conffiwsiaeth
golyguMae rhai traddodiadau Conffiwsaidd yn cyferbynnu enaid ysbrydol ag enaid corfforol.[26]
Hindŵaeth
golyguGair Sansgrit yw Ātman, sy'n golygu 'yr hunan fewnol' neu'r 'enaid'.[27][28] Mewn athroniaeth Hindŵaidd, yn enwedig yn ysgol Hindŵaeth Vedanta, Ātman yw'r egwyddor gyntaf,[29] gwir hunan yr unigolyn. Er mwyn cael rhyddhad (moksha), rhaid i fod dynol gaffael hunan-wybodaeth (atma jnana), sef sylweddoli bod y gwir hunan (Ātman) yn union yr un fath â'r hunan trosgynnol Brahman yn ôl Advaita Vedanta.[27][30]
Mae chwe ysgol uniongred Hindŵaeth yn credu bod Ātman (hunan, hanfod) ym mhob bod.
Mewn Hindŵaeth a Jainiaeth, mae jiva (Sansgrit: जीव, jīva, sillafiad amgen jiwa; Hindi: जीव, jīv, sillafiad amgen jeev) yn fod byw, neu'n unrhyw endid sydd wedi'i drwytho â grym bywyd.[31]
Mae'r cysyniad o jiva mewn Jainiaeth yn debyg i atman mewn Hindŵaeth. Fodd bynnag, mae rhai traddodiadau Hindŵaidd yn gwahaniaethu rhwng y ddau gysyniad, gyda jiva yn cael ei ystyried fel yr hunan unigol, tra bod atman fel yr hunan digyfnewid sy'n bresennol ym mhob bod byw a phopeth arall fel y Brahman metaffisegol.[32][33][34] Cyfeirir at yr olaf fel jiva-atman (enaid mewn corff byw).[32]
Islam
golyguMae'r Corân, llyfr sanctaidd Islam, yn defnyddio dau air i gyfeirio at yr enaid: rūḥ (a gyfieithir fel ysbryd, ymwybyddiaeth, niwma neu enaid) a nafs (a gyfieithir fel yr hunan,yr ego, y seice neu enaid),[35][36] cytras i'r Hebraeg nefesh a ruach. Mae'r ddau derm yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol yn aml, er bod rūḥ yn cael ei ddefnyddio'n amlach i ddynodi'r ysbryd dwyfol neu "anadl einioes", tra bod nafs yn dynodi tueddiad neu nodweddion rhywun.[37] Mewn athroniaeth Islamaidd, yr anfarwol rūḥ sy'n "gyrru" y nafs marwol, sy'n cynnwys chwant y funud a phethau materol sy'n angenrheidiol ar gyfer byw.[38] Mae dau o'r darnau yn y Corân sy'n sôn am y rûh i'w cael ym mhenodau 17 ("Taith y Nos") a 39 ("Y Milwyr"):
“ |
"Ac maen nhw'n gofyn i chi, O Muhammad, am y Rûh. Dywedwch wrthynt, "Y mae'r Rûh yn perthyn i'm Harglwydd; ac ni roddwyd ond pinsiad o wybodaeth amdano i'r ddynolryw." Corân (17:85) |
” |
Jainiaeth
golyguMewn Jainiaeth, mae gan bob bod byw, o blanhigyn neu facteriwm i fodau dynol, enaid ac mae'r cysyniad yma'n sail i Jainiaeth. Nid oes dechrau na diwedd i fodolaeth yr enaid. Mae'n dragwyddol ei natur ac yn newid ei ffurf nes iddo gael ei ryddhau.
Mewn Jainiaeth, jiva yw hanfod anfarwol neu enaid organeb fyw (person, anifail, pysgodyn neu blanhigyn ac ati) sy'n goroesi marwolaeth y corff.[39] Mae'r cysyniad o Ajiva mewn Jainiaeth yn golygu "nid enaid", ac mae'n cynrychioli mater (gan gynnwys y corff), amser, gofod, an-symudiad a mudiant.[39] Mewn Jainiaeth, mae Jiva naill ai'n samsari (cyffredin, wedi'i ddal mewn cylch o aileni) neu mukta (rhyddhau).[40][41]
Ynglŷn â barn Jainaidd o'r enaid, dywedodd Virchand Gandhi:
“ |
Mae'r enaid yn byw ei fywyd ei hun, nid i bwrpas y corff, ond mae'r corff yn byw er mwyn yr enaid. Os credwn fod yr enaid i gael ei reoli gan y corff yna mae enaid yn colli ei allu.[42] |
” |
Seientoleg
golyguBarn Seientoleg yw nad oes gan berson enaid, mae yn enaid. Mae person yn anfarwol, a gall gael ei ailymgnawdoli os yw'n dymuno. Y term Seientoleg am yr enaid yw "thetan", sy'n deillio o'r gair Groeg "theta", sy'n symbol o feddwl. Mae cwnsela seientoleg (a elwir yn archwilio) yn mynd i'r afael â'r enaid i wella galluoedd, bydol ac ysbrydol.
Shamaniaeth
golyguMae deuoliaeth enaid (a elwir hefyd yn "eneidiau lluosog" neu "plwraliaeth ddeuol") yn gred gyffredin mewn Shamaniaeth,[43][44] ac mae'n hanfodol yn y cysyniad cyffredinol a chanolog o "hedfaniad yr enaid" (a elwir hefyd yn "daith-enaid", "profiad y tu allan i'r corff", "ecstasi", neu "dafluniad astral").[45][44][46][47][48] Y gred yw bod gan fodau dynol ddau neu fwy o eneidiau, a elwir yn gyffredinol yn "enaid corff" ("body soul") a'r "enaid rhydd". Mae'r cyntaf yn gysylltiedig â swyddogaethau corfforol ac ymwybyddiaeth pan fyddant yn effro, tra gall yr olaf grwydro'n rhydd yn ystod cyflwr cwsg neu berlesmair (trance).[46][47][48] Mewn rhai achosion, ceir gwahanol fathau o eneidiau, gyda gwahanol swyddogaethau.[49][50]
Shinto
golyguMae Shinto'n gwahaniaethu rhwng eneidiau personau byw (tamashii) ac eneidiau personau marw (mitama), a gall fod gan bob un ohonynt wahanol agweddau neu is-eneidiau.
Sikhaeth
golyguMae Sikhaeth yn ystyried enaid (atma) yn rhan o Dduw (Waheguru), a cheir emynau amrywiol wedi'u dyfynnu o'r llyfr sanctaidd Guru Granth Sahib (SGGS) sy'n awgrymu'r gred hon. "Duw sydd yn yr Enaid, a'r Enaid sydd yn Nuw."[51] Mae'r un cysyniad yn cael ei ailadrodd ar wahanol dudalennau o'r SGGS. Er enghraifft: "Mae'r enaid yn ddwyfol; dwyfol yw'r enaid. Addolwch Ef â chariad."[52] ac "Yr Arglwydd yw'r enaid, a'r enaid yw'r Arglwydd; wrth fyfyrio ar y Shabad, ceir yr Arglwydd.”[53]
Taoaeth
golyguYn ôl traddodiadau Tsieineaidd, mae gan bob person ddau fath o enaid o'r enw hun a po (魂 a 魄), sef yang ac yin yn y drefn honno. Cred y Taoiaid mewn deg enaid, sanhunqipo (三魂七魄) "tri hun a saith po".[54] Dywedir bod gan fod byw sy'n colli unrhyw un ohonynt salwch meddwl neu anymwybyddiaeth, tra gall enaid marw ailymgnawdoli i anabledd, meysydd o awch isel, neu'n methu ag ailymgnawdoli hyd yn oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Soul (noun)". Oxford English Dictionary. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Ail argraddiad. 1989.
- ↑ "Immortality of the Soul". www.jewishencyclopedia.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2016. Cyrchwyd 2016-12-14.
- ↑ Peter Eardley and Carl Still, Aquinas: A Guide for the Perplexed (London: Continuum, 2010), pp. 34–35
- ↑ "Soul", The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition. 2001–07. Retrieved 12 November 2008.
- ↑ "Found: An Ancient Monument to the Soul". The New York Times. 17 November 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 April 2009. Cyrchwyd 18 November 2008.
In a mountainous kingdom in what is now southeastern Turkey, there lived in the eighth century B.C. a royal official, Kuttamuwa, who oversaw the completion of an inscribed stone monument, or stele, to be erected upon his death. The words instructed mourners to commemorate his life and afterlife with feasts "for my soul that is in this stele."
- ↑ Bahá'u'lláh (1976). Gleanings from the Writings of Bahá'u'lláh. Wilmette, Illinois: Baháʼí Publishing Trust. tt. 158–63. ISBN 978-0-87743-187-9. Cyrchwyd 2016-02-23.
- ↑ Bahá'u'lláh (1976). Gleanings from the Writings of Bahá'u'lláh. Wilmette, Illinois: Baháʼí Publishing Trust. tt. 155–58. ISBN 978-0-87743-187-9. Cyrchwyd 2016-02-23.
- ↑ 8.0 8.1 Taherzadeh, Adib (1976). The Revelation of Bahá'u'lláh, Volume 1. Oxford: George Ronald. ISBN 978-0-85398-270-8. Cyrchwyd 2016-02-23.
- ↑ ""Do Embryos Have Souls?", Father Tadeusz Pacholczyk, PhD, Catholic Education Resource Center". Catholiceducation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 June 2011. Cyrchwyd 13 November 2011.
- ↑ Matthew Syed (12 May 2008). "Embryos have souls? What nonsense". The Times. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 September 2011. Cyrchwyd 13 November 2011.
- ↑ "The Soul of the Embryo: An Enquiry into the Status of the Human Embryo in the Christian Tradition", by David Albert Jones, Continuum Press, 2005, ISBN 978-0-8264-6296-1
- ↑ "Soul". newadvent.org. 1 July 1912. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2011. Cyrchwyd 13 November 2011.
In St. Paul we find a more technical phraseology employed with great consistency. Psyche is now appropriated to the purely natural life; pneuma to the life of supernatural religion, the principle of which is the Holy Spirit, dwelling and operating in the heart. The opposition of flesh and spirit is accentuated afresh (Romans 1:18, etc.). This Pauline system, presented to a world already prepossessed in favour of a quasi-Platonic Dualism, occasioned one of the earliest widespread forms of error among Christian writers – the doctrine of the Trichotomy. According to this, man, perfect man (teleios) consists of three parts: body, soul, spirit (soma, psyche, pneuma).
- ↑ "paragraph 363". Catechism of the Catholic Church.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "paragraph 382". Catechism of the Catholic Church.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ Helm, Paul (2006). John Calvin's Ideas. t. 129.
The Immortality of the Soul: As we saw when discussing Calvin's Christology, Calvin is a substance dualist.
- ↑ Grafton, Anthony; Most, Glenn W.; Settis, Salvatore (2010). The Classical Tradition. t. 480.
On several occasions, Luther mentioned contemptuously that the Council Fathers had decreed the soul immortal.
- ↑ Marius, Richard (1999). Martin Luther: The Christian between God and death. t. 429.
Luther, believing in soul sleep at death, held here that in the moment of resurrection ... the righteous will rise to meet Christ in the air, the ungodly will remain on earth for judgment, ...
- ↑ "Birmingham Amended Statement of Faith". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 February 2014.
- ↑ What Does the Bible Really Teach?. t. 211.
- ↑ "88:15". Doctrine and Covenants. Salt Lake City, UT: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints.
And the spirit and the body is the soul of man.
- ↑ "6:51". Moses. Salt Lake City, UT: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "12:9". Hebrews. Salt Lake City, UT: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "131:7–8". Doctrine and Covenants. Salt Lake City, UT: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints. 1864.
Joseph Smith goes so far as to say that these spirits are made of a finer matter that we cannot see in our current state
- ↑ "Alma". Book of Mormon. Salt Lake City, UT: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints. 5:15; 11:43–45; 40:23; 41:2.
- ↑ "93:33–34". Doctrine and Covenants.
- ↑
Boot, W.J. (2014). "3: Spirits, Gods and Heaven in Confucian thought". In Huang, Chun-chieh; Tucker, John Allen (gol.). Dao Companion to Japanese Confucian Philosophy. Dao Companions to Chinese Philosophy. 5. Dordrecht: Springer. t. 83. ISBN 9789048129218. Cyrchwyd 27 April 2019.
[...] Confucius combines qi with the divine and the essential, and the corporeal soul with ghosts, opposes the two (as yang against yin, spiritual soul against corporal soul) and explains that after death the first will rise up, and the second will return to the earth, while the flesh and bones will disintegrate.
- ↑ 27.0 27.1 David Lorenzen (2004), The Hindu World (Editors: Sushil Mittal and Gene Thursby), Routledge, ISBN 0-415-21527-7, pp. 208–09, Quote: "Advaita and nirguni movements, on the other hand, stress an interior mysticism in which the devotee seeks to discover the identity of individual soul (atman) with the universal ground of being (brahman) or to find god within himself".
- ↑ Chad Meister (2010), The Oxford Handbook of Religious Diversity, Oxford University Press, ISBN 978-0-19-534013-6, p. 63; Quote: "Even though Buddhism explicitly rejected the Hindu ideas of Atman ("soul") and Brahman, Hinduism treats Sakyamuni Buddha as one of the ten avatars of Vishnu."
- ↑ Deussen, Paul and Geden, A.S. The Philosophy of the Upanishads. Cosimo Classics (1 June 2010). p. 86. ISBN 1-61640-240-7.
- ↑ Richard King (1995), Early Advaita Vedanta and Buddhism, State University of New York Press, ISBN 978-0-7914-2513-8, p. 64, Quote: "Atman as the innermost essence or soul of man, and Brahman as the innermost essence and support of the universe. (...) Thus we can see in the Upanishads, a tendency towards a convergence of microcosm and macrocosm, culminating in the equating of atman with Brahman".
- ↑ Matthew Hall (2011). Plants as Persons: A Philosophical Botany. State University of New York Press. t. 76. ISBN 978-1-4384-3430-8.
- ↑ 32.0 32.1 Jean Varenne (1989). Yoga and the Hindu Tradition. Motilal Banarsidass. tt. 45–47. ISBN 978-81-208-0543-9.
- ↑ Michael Myers (2013). Brahman: A Comparative Theology. Routledge. tt. 140–43. ISBN 978-1-136-83565-0.
- ↑ "The Philosophy of Person: Solidarity and Cultural Creativity, Jozef Tischner and George McClean, 1994, p. 32".
- ↑ Deuraseh, Nurdeen; Abu Talib, Mansor (2005). "Mental health in Islamic medical tradition". The International Medical Journal 4 (2): 76–79.
- ↑ Bragazzi, NL; Khabbache, H (2018). "Neurotheology of Islam and Higher Consciousness States". Cosmos and History: The Journal of Natural and Social Philosophy 14 (2): 315–21. http://cosmosandhistory.org/index.php/journal/article/viewFile/742/1296.
- ↑ Th. Emil Homerin (2006). "Soul". In Jane Dammen McAuliffe (gol.). Encyclopaedia of the Qur'an, Volume 5. Brill.
- ↑ Ahmad, Sultan (2011). "Nafs: What Is it?". Islam in Perspective (arg. revised). Author House. t. 180. ISBN 978-1-4490-3993-6.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ 39.0 39.1 J Jaini (1940). Outlines of Jainism. Cambridge University Press. tt. xxii–xxiii.
- ↑ Jaini, Jagmandar-lāl (1927), Gommatsara Jiva-kanda, p. 54, https://books.google.com/books?id=qN82XwAACAAJ Alt URL
- ↑ Sarao, K.T.S.; Long, Jeffery D., gol. (2017). "Jīva (Jainism)". Buddhism and Jainism. Encyclopedia of Indian Religions (yn Saesneg). Springer Netherlands. t. 594. doi:10.1007/978-94-024-0852-2_100397. ISBN 978-94-024-0851-5.
- ↑ "Forgotten Gandhi, Virchand Gandhi (1864–1901) – Advocate of Universal Brotherhood". All Famous Quotes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 September 2013.
- ↑ Sumegi, Angela (2008). Dreamworlds of Shamanism and Tibetan Buddhism: The Third Place. SUNY Press. t. 16. ISBN 9780791478264.[dolen farw]
- ↑ 44.0 44.1 Drobin, Ulf (2016). "Introduction". In Jackson, Peter (gol.). Horizons of Shamanism (PDF). Stockholm University Press. tt. xiv–xvii. ISBN 978-91-7635-024-9.
- ↑ Hoppál, Mihály (2007). Shamans and Traditions. Budapest: Akadémiai Kiadó. tt. 17–26. ISBN 978-963-05-8521-7.
- ↑ 46.0 46.1 Winkelman, Michael James (2016). "Shamanism and the Brain". In Niki, Kasumi-Clements (gol.). Religion: Mental Religion. Macmillan Reference USA. tt. 355–372. ISBN 9780028663609.
- ↑ 47.0 47.1 Winkelman, Michael (2002). "Shamanic universals and evolutionary psychology". Journal of Ritual Studies 16 (2): 63–76. JSTOR 44364143. https://www.jstor.org/stable/44364143.
- ↑ 48.0 48.1 Hoppál, Mihály. "Nature worship in Siberian shamanism".
- ↑ Merkur, Daniel (1985). Becoming Half Hidden / Shamanism and Initiation among the Inuit. Stockholm: Almqvist & Wiksell. tt. 61, 222–223, 226, 240. ISBN 91-22-00752-0.
- ↑ Kulmar, Tarmo. "Conceptions of soul in old-Estonian religion".
- ↑ SGGS, M 1, p. 1153.
- ↑ SGGS, M 4, p. 1325.
- ↑ SGGS, M 1, p. 1030.
- ↑ "Encyclopedia of Death and Dying (2008)". Deathreference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 November 2011. Cyrchwyd 13 November 2011.
Darllen pellach
golygu- Batchelor, Stephen. (1998). Bwdhaeth Heb Gredoau . Cyhoeddiad Bloomsbury.
- Bremmer, Jan (1983). The Early Greek Concept of the Soul. Princeton: Princeton University Press. ISBN 978-0-691-03131-6. Cyrchwyd 16 August 2007.978-0-691-03131-6
- Chalmers, Dafydd. J. (1996). The Conscious Mind: In Search of a Fundamental Theory, Efrog Newydd a Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Christopher, Milbourne . (1979). Chwilio Am Yr Enaid: Adroddiad Mewnol Ar Yr Ymholiad Parhaus Gan Seicigau A Gwyddonwyr Am Dystiolaeth O Fywyd Wedi Marw . Thomas Y. Crowell, Cyhoeddwyr.
- Clarke, Peter (2014). "Neuroscience, Quantum Indeterminism and the Cartesian Soul". Brain and Cognition 84 (1): 109–17. doi:10.1016/j.bandc.2013.11.008. PMID 24355546.
- Hood, Bruce . (2009). Supersense: O Ofergoeliaeth i Grefydd - Gwyddor Ymennydd Cred . Cwnstabl.ISBN 978-1-84901-030-6ISBN 978-1-84901-030-6
- McGraw, John J. (2004). Ymennydd a Chred: Archwiliad o'r Enaid Dynol . Gwasg Aeg.
- Martin, Michael ; Awstin, Keith. (2015). Myth Bywyd ar ôl Marwolaeth: Yr Achos yn Erbyn Bywyd ar ôl Marwolaeth . Rowman a Littlefield.ISBN 978-0-8108-8677-3ISBN 978-0-8108-8677-3
- Parc, Robert L. (2009). Ofergoeliaeth: Cred yn Oes Gwyddoniaeth . Gwasg Prifysgol Princeton .ISBN 978-0-691-13355-3ISBN 978-0-691-13355-3
- Rohde, Erwin . (1925). Psyche: Cwlt Eneidiau a Chred Mewn Anfarwoldeb Ymhlith y Groegiaid, Llundain: Routledge & Kegan Paul, 1925; ailargraffwyd gan Routledge, 2000.ISBN 0-415-22563-9ISBN 0-415-22563-9 .
- Ryle, Gilbert. (1949) The Concept of Mind, Llundain: Hutchinson.
- Spenard, Michael (2011) "Dueling with Dualism: the Forlorn quest for the immaterial soul", traethawd. Disgrifiad hanesyddol o ddeuoliaeth meddwl-corff a beirniadaeth gysyniadol ac empirig gynhwysfawr ar y sefyllfa.ISBN 978-0-578-08288-2ISBN 978-0-578-08288-2
- Swinburne, Richard . (1997). Esblygiad yr Enaid . Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Leibowitz, Aryeh. (2018). Y Neshama: Astudiaeth o'r Enaid Dynol. Cyhoeddwyr Feldheim.ISBN 1-68025-338-7ISBN 1-68025-338-7
- Kleivan, Inge; Sonne, B. (1985). "Arctic peoples". Eskimos. Greenland and Canada. Iconography of religions. Leiden, The Netherland): State University Groningen, via E.J. Brill. section VIII, fascicle 2. ISBN 90-04-07160-1.90-04-07160-1
- Gabus, Jean (1970). A karibu eszkimók (yn Hwngareg). Budapest: Gondolat Kiadó. Cyfieithiad o'r gwreiddiol:Gabus, Jean (1944). Vie et coutumes des Esquimaux Caribous. Libraire Payot Lausanne.
Gweler hefyd
golygu- Eneidyddiaeth (animism)
- Ysbryd
Dolenni allanol
golygu- Etymology of Soul
- Ni Fydd Theori Cwantwm yn Achub Yr Enaid Archifwyd 2015-06-24 yn y Peiriant Wayback
- Yr Hyn y mae Gwyddoniaeth yn Ei Wir Ddweud Am yr Enaid gan Stephen Cave
- Stanford Encyclopedia of Philosophy cofnod ar Damcaniaethau Hynafol yr Enaid....
- Yr enaid mewn Iddewiaeth yn Chabad.org
- Cysyniad yr Hen Destament o'r Enaid gan Heinrich J. Vogel]
- Erthygl Corff, Enaid ac Ysbryd yn y Cyfnodolyn Cywirdeb Beiblaidd
- Ydy Dyn Arall yn Byw Y Tu Mewn i Chi?
- " The Soul ", trafodaeth BBC Radio 4 gyda Richard Sorabji, Ruth Padel a Martin Palmer ( In Our Time, 6 Mehefin 2002)