Mae Philip Anthony Campbell (ganwyd 7 Mai 1961) yn gerddor roc ac yn gyn-gitarydd gyda'r grŵp Persian Risk.[1] Ers 1984 mae'n chwarae'r gitâr flaen i Motörhead. Ymddangosodd ar 15 o albymau'r band a 4 albwm byw.

Phil Campbell
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
Philip Anthony Campbell
Llysenw/auLord Axsmith
Zoom
Wizzö
Ganwyd (1961-05-07) 7 Mai 1961 (62 oed)
Pontypridd, Cymru
Math o GerddoriaethMetal trwm, roc trwm, roc a rôl
GwaithCerddor, cyfansoddwr
Offeryn/nauGitâr, llais
Cyfnod perfformio1979–presennol
Perff'au eraillMotörhead, Persian Risk, Phil Campbell's All Starr Band
Gwefanimotorhead.com
Offerynnau nodweddiadol
Gibson Les Paul
LAG Phil Campbell Model
Parker Nitefly
Gibson Explorer
Framus Panthera

Yn 2004 cyhoeddwyd mai Phil Campbell oedd yr ugeinfed Cymro mwyaf a fu erioed, a derbyniodd 763 o bleidleisiau.

Ganed Campbell ym Mhontypridd, a chychwynodd ddysgu'r gitâr pan oedd yn 10 oed. Fe'i ysbrydolwyd dros y blynyddoedd gan: Jimi Hendrix, Tony Iommi (Black Sabbath), Jimmy Page (Led Zeppelin), Jan Akkerman, Michael Schenker a Todd Rundgren.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Philip Anthony Campbell". AOL Music. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-30. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2008.

Dolennau allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: