Philippe d'Orléans
Mab ieuengaf Louis XIII, brenin Ffrainc, a'i wraig Ann o Awstria oedd Philippe d'Orléans (21 Medi 1640 – 9 Mehefin 1701). Rhoddwyd iddo'r teitl Dug Anjou o'i enedigaeth ac roedd yna'n Ddug Orléans ar farwolaeth ei ewythr Gaston yn 1660. Ei frawd hynaf, Louis XIV, brenin Ffrainc, oedd y roi soleil. Tra theyrnasodd ei frawd, fe'i adnabyddid yn syml fel Monsieur, teitl traddodiadol y llys Ffrengig a roddwyd i'r mab ieuengaf.
Philippe d'Orléans | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1640 Saint-Germain-en-Laye |
Bu farw | 9 Mehefin 1701 Saint-Cloud |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | casglwr celf, person milwrol |
Swydd | Dug Anjou, Duke of Orléans |
Tad | Louis XIII, brenin Ffrainc |
Mam | Anna o Awstria |
Priod | Henrietta o Loegr, Elizabeth Charlotte, y Dywysoges Palatine |
Partner | Philippe of Lorraine, Armand de Gramont, Comte de Guiche |
Plant | Marie Louise d'Orléans, Anne Marie d'Orléans, Élisabeth Charlotte d'Orléans, Philippe, dug Orléans, brenin Ffrainc, Philippe Charles, Duke of Valois, Alexandre-Louis d'Orléans, stillborn son d'Orléans, unnamed daughter d'Orléans |
Llinach | Q42880782 |
Gwobr/au | Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur |
llofnod | |
Yn 1661 derbyniodd ddugaeth Valois a Chartres.[1] Yn dilyn ei lwyddiant milwrol yn 1671, ychwanegwyd dugaeth Nemours, fel rhodd gan ei frawd y brenin, ac yna ardalaeth Valois, Chartres ac eraill.[2]
Ymfalchïodd yn ei ystumiau a'i olwg merchetaidd, ac roedd yn ŵr hoyw, a hynny'n agored. Ond gwnaeth ei ddyletswydd traddodiadol gan briodi ddwywaith a daeth yn dad i sawl plentyn. Yn wir, ef yw sefydlydd llinach Orléans a Bourbon, ac roedd felly'n un o hynafiaid Louis Philippe I, brenin Ffrainc, a deyrnasodd rhwng 1830 hyd at 1848. Oherwydd ei ddisgynyddion Catholig, gelwir ef, bellach, yn "Dadcu Ewrop".[3] Mae hefyd yn nodedig am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Cassel yn 1677. Ychwanegodd at gyfoeth llinach Orléans, yn bennaf oherwydd ei allu gweinyddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anthony, Louisa. Footsteps to history, being an epitome of the histories of England and France, from the fifth to the nineteenth century (1852), tud. 195.
- ↑ Lane, William Coolidge. "A.L.A. Portrait Index: Index to Portraits Contained in Printed Books" (1906), tud. 1099. B. Franklin.
- ↑ Mitford, tud. 55