Louis XIV, brenin Ffrainc
Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1 Medi 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 1638 – 1 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.[1]
Louis XIV, brenin Ffrainc | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Medi 1638 ![]() Château de Saint-Germain-en-Laye ![]() |
Bedyddiwyd | 21 Ebrill 1643 ![]() |
Bu farw | 1 Medi 1715 ![]() Palas Versailles ![]() |
Man preswyl | Palas Versailles ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, casglwr celf, actor, teyrn, gwladweinydd ![]() |
Swydd | brenin Ffrainc a Navarre, Cyd-Dywysog Ffrainc ![]() |
Tad | Louis XIII, brenin Ffrainc ![]() |
Mam | Ann o Awstria ![]() |
Priod | Maria Theresa of Spain, Madame de Maintenon ![]() |
Partner | Louise de La Vallière, Madame de Montespan, Claude de Vin des Œillets, Catherine Bellier, Marie Mancini, Olympia Mancini, Anne-Madeleine de Conty d'Argencourt, Catherine Charlotte de Gramont, Bonne de Pons d'Heudicourt, Anne de Rohan-Chabot, Isabelle de Ludres, Marie Angélique de Scorailles ![]() |
Plant | Louis, Grand Dauphin, Marie Thérèse, Madame Royale, Philippe Charles, Duke of Anjou, Princess Anne Élisabeth of France, Princess Marie Anne of France, Louis François, Duke of Anjou, Françoise Marie de Bourbon, Louise Françoise de Bourbon, Louis Auguste, Duke of Maine, Louis, iarll Vermandois, Louis César, Count of Vexin, Louise Marie Anne de Bourbon, Marie Anne de Bourbon, Louise de Maisonblanche, Charles de La Baume Le Blanc, Philippe de Bourbon, unknown son Bourbon, unknown son (?), louise Françoise de Bourbon, Louis Alexandre, Count of Toulouse ![]() |
Llinach | House of Bourbon in France, House of Bourbon ![]() |
Gwobr/au | Urdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel, Order of Saint Louis ![]() |
llofnod | |
![]() |
I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde.
Plentyndod a phriodasGolygu
Cafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn rhanbarth Île-de-France.[2] Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw)[3] ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin.[4] Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.
Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638–1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Louis XIV". MSN Encarta. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-01. Cyrchwyd 20 Ionawr 2008.
- ↑ Sturdy, D. J. (2004). Richelieu and Mazarin : a study in statesmanship (yn Saesneg). Efrog Newydd: Palgrave Macmillan. t. 61. ISBN 9781403943927.
- ↑ Brémond, Henri (1908). La Provence mystique au XVIIe siècle (yn French). Paris: Plon-Nourrit. tt. 381–382.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ François Bluche (translated by Mark Greengrass (1990). Louis XIV. New York: Franklin Watts. t. 11. ISBN 0-531-15112-3.
Dolenni allanolGolygu
- Acton, J. E. E., 1st Baron. (1906). Lectures on Modern History. London: Macmillan and Co.
- Goyau, G. (1910). "Louis XIV." The Catholic Encyclopedia. (Volume IX). New York: Robert Appleton Company.
- Steingrad, E. (2004). "Louis XIV."
Rhagflaenydd: Louis XIII |
Brenin Ffrainc 14 Mai 1643 – 1 Medi 1714 |
Olynydd: Louis XV |