Philippe d'Orléans (1640 - 1701)
Mab ieuengaf Louis XIII, brenin Ffrainc a'i wraig Ann o Awstria oedd Philippe d'Orléans (21 Medi 1640 - 9 Mehefin 1701). Rhoddwyd iddo'r teitl Dug Anjou o'i enedigaeth ac yna'n Ddug Orléans ar farwolaeth ei ewyrth Gaston yn 1660. Ei frawd hynaf, Louis XIV, brenin Ffrainc, oedd y roi soleil. Tra theyrnasodd ei frawd, fe'i adnabyddid yn syml, fel Monsieur, teitl traddodiadol y llys Ffrengig a roddwyd i'r mab ieuengaf.
Philippe d'Orléans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Medi 1640 ![]() Saint-Germain-en-Laye ![]() |
Bu farw | 9 Mehefin 1701 ![]() Saint-Cloud ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | casglwr celf, person milwrol ![]() |
Swydd | Duke of Anjou, Duke of Orléans ![]() |
Tad | Louis XIII, brenin Ffrainc ![]() |
Mam | Ann o Awstria ![]() |
Priod | Henrietta of England, Elizabeth Charlotte, Princess Palatine ![]() |
Partner | Philippe of Lorraine, Armand de Gramont, Comte de Guiche ![]() |
Plant | Marie Louise d'Orléans, Anne Marie d'Orléans, Élisabeth Charlotte d'Orléans, Philippe, dug Orléans, brenin Ffrainc, Philippe Charles, Duke of Valois, Alexandre-Louis d'Orléans, stillborn son d'Orléans, unnamed daughter d'Orléans ![]() |
Llinach | Q42880782 ![]() |
Gwobr/au | Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Philippe d'Orléans | |||||
---|---|---|---|---|---|
![]() Philippe d'Orléans, Dug Orléans yn 1675 gan Mignard | |||||
Dug Orléans | |||||
10 Mai 1661 – 9 Mehefin 1701 | |||||
Ganwyd | Château de Saint-Germain-en-Laye, Ffrainc | 21 Medi 1640 ||||
Bu farw | 9 Mehefin 1701 Château de Saint-Cloud, Ffrainc | (60 oed) ||||
Claddwyd | 21 Mehefin 1701 Basilica Sant Denis, Saint Denis, Ffrainc | ||||
Priod | Henrietta o Loegr Elisabeth Charlotte o'r Freiniarllaeth | ||||
Plant | Marie Louise, Brenhines Sbaen Anne Marie, Brenhines Sardinia Philippe, Dug Orléans Élisabeth Charlotte d'Orléans | ||||
| |||||
Teulu | Llinach Orléans Llinach y Bourbon | ||||
Tad | Louis XIII | ||||
Mam | Ann o Awstria | ||||
Llofnod | ![]() |
Yn 1661 derbyniodd ddugaeth Valois a Chartres.[1] Yn dilyn ei lwyddiant milwrol yn 1671, ychwanegwyd dugaeth Nemours, fel rhodd gan ei frawd y brenin, ac yna ardalaeth Valois, Chartres ac eraill.[2]
Ymfalchiodd yn ei ystumiau a'i olwg merchetaidd, ac roedd yn ŵr hoyw, a hynny'n agored. Ond gwnaeth ei ddyletswydd traddodiadol gan briodi ddwywaith a daeth yn dad i sawl plentyn. Yn wir, ef yw sefydlydd Llinach Orléans a Bourbon, ac mae felly'n un o hynafiaid Louis Philippe I, brenin Ffrainc a deyrnasodd rhwng 1830 hyd at 1848. Oherwydd ei ddisgynyddion Pabyddol, gelwir ef, bellach, yn "Dadcu Ewrop".[3] Mae hefyd yn nodedig am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Cassel yn 1677. Ychwanegodd at gyfoeth Llinach Orléans, yn bennaf oherwydd ei allu gweinyddol.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Anthony, Louisa. Footsteps to history, being an epitome of the histories of England and France, from the fifth to the nineteenth century, p.195. Published 1852.
- ↑ Lane, William Coolidge. "A.L.A. Portrait Index: Index to Portraits Contained in Printed Books", P1099. Published 1906, B. Franklin.
- ↑ Mitford, t. 55