Talaith (nomos) yng Ngwlad Groeg yw Phocis (Groeg: Φωκίδα, Hen Roeg: Φωκίς). Saif yng nghanolbarth Groeg, yn ymestyn o lethrau gorllewinol Mynydd Parnassus hyd fynyddoedd Vardousia ger Gwlff Corinth yn y gorllewin. Y brifddinas yw Amfissa, ac mae cymunedau eraill yn cynnwys Delphi, Galaxidi ac Itea.

Phocis
Delwedd:Nomos Fokidas.png, Delphi Composite.jpg
Mathnomau Groeg Edit this on Wikidata
PrifddinasAmfissa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCentral Greece Region Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,120 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.5°N 22.25°E Edit this on Wikidata
Cod post33x xx Edit this on Wikidata
GR-07 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Phocis

Mae'n ardal fynyddig ac anfrwythlon, a dim ond 48,284 oedd poblogaeth y dalaith yn 2001. Ffinia ar Aetolia-Acarnania yn y gorllewin, Phthiotis yn y gogledd a Boeotia yn y dwyrain.