Mae Delphi (Groeg: Δελφοί), yn safle archaeolegol yng Ngwlad Groeg ac hefyd yn enw ar y dref fodern gerllaw. Mae ar lechweddau isaf Mynydd Parnassus yn Phocis.

Templ Apollo yn Delphi

Roedd Delphi yn safle o bwysigrwydd mawr yng Ngroeg yr Henfyd oherwydd presenoldeb Oracl Delphi. Mae'r safle yn dyddio i'r cyfnod cyn-hanesyddol, pan addolid Gaia yma; yn ddiweddarch roedd yn gysegredig i'r duw Apollo.

Delphi oedd safle yr omphalos (ομφαλός) carreg oedd yn dynodi canolbwynt y byd. Roedd yr omphalos yn nheml Apollo o Delffi (Ἀπόλλων Δελφίνιος).

Saif y dref fodern i'r gorllewin o'r safle archaeolegol. Roedd y boblogaeth yn 3,511 yn 2001.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Hen dref golygu

  • Gymnasium
  • Hippodrôm
  • Teml Apollo
  • Theatr
  • Tholos
  • Trysorfa Athen

Dref fodern golygu

  • Amgueddfa Delphi

Enwogion golygu

  • Hegesander (m. c. 250CC), hanesydd