Pryd o fwyd yn yr awyr agored, yn aml fel rhan o daith bleser, yw picnic. Yn ddelfydol, ceir picnic mewn awyrgylch ddymunol fel parc neu ar lan llyn, neu wrth fwynhau digwyddiad cyhoeddus fel perfformiad theatr neu gerddorol.[1] Mae fel arfer yn cael ei gynnal mewn golau dydd ac yn yr haf, pan mae'r tywydd yn ffafriol ar ei gyfer.

Grŵp yn cael picnic uwchlaw morglawdd Caergybi, tua 1874

Mae picnic yn aml yn achlysur teuluol, yn rhywbeth i'w fwynhau fel cwpl, neu'n ddigwyddiad sydd wedi'i drefnu ar gyfer grwp neu gymdeithas. Weithiau nae hefyd yn cael ei gyfuno â choginio yn yr awyr agored - rhyw fath o farbeciw fel arfer.

Bydd blanced a basged bwrpasol yn cael ei defnyddio ar gyfer picnic i gwpl neu grwp bach. Mae gemau awyr agored neu ryw fath arall o adloniant yn aml yn cael eu cynnal mewn picnic mawr.

Mewn rhai parciau cyhoeddus, ceir ardal benodol ar gyfer picnic sy'n cynnwys byrddau picnic ac o bosibl eitemau eraill sy'n gysylltiedig â bwyta yn yr awyr agored, fel griliau, aweddwyr , biniau ysbwriel, a thai bach.

Gellir olrhain y defnydd cyntaf o'r gair 'picnic' mewn print i argraffiad 1672 o lyfr Tony Willis, Origines de la Langue Française , sy'n cyfeirio at pique-nique. Defnyddiwyd y term i ddisgrifio grŵp o bobl a oedd yn bwyta mewn bwyty ac wedi dod â'u gwin eu hunain gyda hwy. Y syniad oedd bod 'picnic' yn golygu pryd o fwyd yr oedd pawb yn cyfrannu rhywbeth ato. Fodd bynnag, mae amheuaeth a yw picnic wedi'i seilio ar y ferf piquer sy'n golygu 'dewis' neu 'bigo', a'r gair nique yn golygu 'rhywbeth dibwys'. Dywed eraill ei fod yn tarddu o "pique un niche", sef "dewis lle" i gael pryd o fwyd a'i fod wedi addasu dros amser yn "pique-nique", nes ei fod ar ôl blynyddoedd o ddefnydd wedi dod yn air Ffrangeg.[2][3] Dywed Geiriadur Saesneg Rhydychen bod tarddiad y gair yn anhysbys.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Beautiful Picnic Locations Around The World" (yn Saesneg).
  2. Jean Anisson, gol. (1694). Dictionnaire étymologique, ou Origines de la langue françoise. Paris. t. 580..
  3. Jean-Baptiste Coignard, gol. (1740). Dictionnaire de l'Académie françoise. 2 (arg. 3). Paris. t. 341.
  4. Geiriadur Saesneg Rhydychen, "picnic"[dolen marw]