Pierre Mauroy
Prif Weinidog Ffrainc rhwng 1981 a 1984 a gwleidyddol sosialydd oedd Pierre Mauroy (5 Gorffennaf 1928 – 7 Mehefin 2013). Bu hefyd yn Faer Lille rhwng 1973 a 2001. Bu farw o gansar yr ysgyfaint yn 84 oed. Galwyd Stadiwn Lille ar ei ôl: Stade Pierre-Mauroy.[1]
Pierre Mauroy | |
![]()
| |
Cyfnod yn y swydd 22 Mai 1981 – 17 Gorffennaf 1984 | |
Rhagflaenydd | Raymond Barre |
---|---|
Olynydd | Laurent Fabius |
Geni | 5 Gorffennaf 1928 Cartignies |
Marw | 7 Mehefin 2013 Clamart |
Plaid wleidyddol | Plaid Sosialaidd |
Cafodd ei ethol yn Brif Ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym 1988, ac ymddiswyddodd ym 1992.
Cefndir cynnarGolygu
Fe'i ganed yn Cartignies yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc. Tra'n athro, yn y 1950au, bu'n flaenllaw oddi fewn i Fudiad Sosialaidd yr Ieuenctid ac yna oddi fewn i undeb athrawon département (neu 'Ranbarth') Nord. Erbyn 1966 roedd yn un o arweinwyr plaid gweithwyr Ffrainc, y Section Française de l'Internationale Ouvrière, SFIO.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Raymond Barre |
Prif Weinidog Ffrainc 22 Mai 1981 – 17 Gorffennaf 1984 |
Olynydd: Laurent Fabius |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Pierre Mauroy, Former French Socialist Premier, Dies at 84 - The New York Times". nytimes.com. Cyrchwyd 3 Mawrth 2017.