Pilau
Mae Pilau (weithiau ceir y trawlythreniad Pilao neu Pilaw) yn ynys greigiog sy'n gorwedd yn y Môr Canoldir oddi ar dref glan môr Raf Raf, i'r dwyrain o Bizerte yng ngogledd Tiwnisia. Enw arall ar yr ynys yn Arabeg yw K'minnaria ("copa tanllyd").
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bizerte |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 116 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 37.20153°N 10.23875°E |
Hyd | 0.5 cilometr |
Daw'r enw Arabeg Pilau o'r gair Malayeg pulau, sy'n golygu "ynys". Enw arall arni gan forwyr yr ardal yw Haajret El Pilau (Arabeg am "Craig yr Ynys").