Pili Pala (cyfres deledu)

Cyfres ddrama Gymraeg

Rhaglen ddrama Gymraeg yw Pili Pala wedi ei leoli ar arfordir gogledd-orllewin Cymru.

Pili Pala
Adnabuwyd hefyd fel Butterfly Breath
Genre Drama
Serennu Sian Reese-Williams
Fflur Medi Owen
Cyfansoddwr/wyr Benjamin Talbott a Victoria Ashfield
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 4 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Nora Ostler Spiteri, Alec Spiter, Gethin Scourfield
Golygydd Mali Evans
Lleoliad(au) Bjørn Bratberg
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Triongl
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 8 Medi 2019 (2019-09-08) – 29 Medi 2019 (2019-09-29)
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Crëwyd a sgrifennwyd y gyfres gan Phil Rowlands. Cynhyrchir y gyfres gan Triongl ar gyfer S4C a bydd yn cael ei werthu'n rhyngwladol gan All3Media International. Cynhyrchwyr y ddrama yw Gethin Scourfield, Nora Ostler ac Alec Spiteri, y tri a ffurfiodd y cwmni cynhyrchu Triongl. Darlledwyd y gyfres pedair pennod yn cychwyn ar nos Sul, 8 Medi 2019 am 9 yr hwyr. Wedi'r rhaglen gyntaf, rhyddhawyd y pedair pennod ar wasanaeth S4C Clic.[1][2]

Mae'n ddrama am hanes dwy fenyw a'r effaith mae un penderfyniad meddygol yn cael ar eu bywydau nhw a'u teuluoedd. Mae Siân Reese-Williams yn chwarae rhan Sara Morris sy'n brif feddyg ymgynghorol mewn Adran Feddygaeth Ffetws mewn ysbyty yng ngogledd Cymru.[3]

Cast a chymeriadau

golygu
  • Sian Reese-Williams - Sara
  • Fflur Medi Owen - Elin
  • Carys Letton Jones - Mari
  • Rhys ap Trefor - Dygi
  • Owen Arwyn - Jac
  • Betsan Haf Humphreys - Cadi
  • Catrin Mara - Avril
  • Dyfed Cynan - Rhys
  • Melangell Dolma - Efa
  • Caitlin Richards - Claire Gibson
  • Nia Roberts - Beti Howells
  • Simon Watts - Gareth Isaacs
  • Lisa Jen Brown - Jess Harries
  • Gwenno Meredydd Elis - Merch Fach
  • Lowri Gwynne - Mam
  • Catrin Morgan - Cath
  • Sion Pritchard - DI Simon Huws
  • Hanna Jarman - DC Lisa Holt
  • Catrin Powell - DC Llewelyn
  • Kate Jarman - Hannah Price
  • Llyr Evans - Marc Elis

Penodau

golygu

Cyfres 1

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [4]
1"Pennod 1"Claire WinyardPhil Rowlands8 Medi 2019 (2019-09-08)21,000
Hanes dwy fenyw a'r effaith mae un penderfyniad meddygol yn cael ar eu bywydau nhw a'u teuluoedd.
2"Pennod 2"Claire WinyardPhil Rowlands15 Medi 2019 (2019-09-15)19,000
Y tro hwn: mae Elin a Jac wedi gwneud penderfyniad anoddaf eu bywydau. Nawr, gyda help Sara mae'n rhaid ei weithredu.
3"Pennod 3"Rhys CarterPhil Rowlands22 Medi 2019 (2019-09-22)18,000
Mae penderfyniad Sara yn dal i fyny gyda hi, er gwaetha'i sicrwydd ei bod hi wedi gwneud y peth iawn. Wedyn mae'n derbyn newyddion syfrdanol...
4"Pennod 4"Rhys CarterPhil Rowlands29 Medi 2019 (2019-09-29)<18,000
Mae cyffesiad Dygi wedi llorio Sara, ond oherwydd y ddamwain mae'n cymryd amser iddi brosesu'r oblygiadau.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Rhag-ddangosiad: Pili Pala + Sesiwn Holi ac Ateb. BAFTA Cymru (Medi 2019). Adalwyd ar 20 Medi 2019.
  2. (Saesneg) All3Media Int’l flies off with Welsh drama Pili Pala rights. tbivision.com (3 Medi 2019). Adalwyd ar 20 Medi 2019.
  3. Drama ddewr sy’n trafod natur mamolaeth a chyfeillgarwch (en) , Denbighshire Free Press, 5 Medi 2019. Cyrchwyd ar 20 Medi 2019.
  4. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu