Pina Bausch

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Solingen yn 1940

Dawnswraig fodern, cyfarwyddwraig bale, coreograffydd, athrawes ddawns a pherfformwraig o'r Almaen oedd Philippina "PinaBausch (27 Gorffennaf 194030 Mehefin 2009). Gyda'i steil unigryw, ei dawn o symud, sain, a llwyfannu diddorol, yn ogystal â chydweithio gyda pherfformwyr yn ystod y broses datblygu (steil a elwir Tanztheater), fe ddaeth yn arweinydd dylanwadol ym maes y ddawns fodern o'r 1970au ymlaen. Fe greodd hi'r cwmni Tanztheater Wuppertal Pina Bausch (de) sy'n perfformio yn rhyngwladol.

Pina Bausch
GanwydPhilippine Bausch Edit this on Wikidata
27 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Solingen Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 2009 Edit this on Wikidata
Wuppertal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol y Celfyddydau, Folkwang
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcoreograffydd, dawnsiwr bale, meistr mewn bale, academydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCafé Müller Edit this on Wikidata
PriodRonald Kay Edit this on Wikidata
PlantRolf Salomon Bausch Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Ring of Honour of the city Wuppertal, Gwobr Goethe, Musikpreis der Stadt Duisburg, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Praemium Imperiale, Chevalier de la Légion d'Honneur, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, Uwch-swyddog Urdd Santiago de la Espada, Honorary doctor of the University of Bologna, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Pour le Mérite, Deutscher Tanzpreis, Gwobr Theatr Ewrop Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.pinabausch.org/ Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar

golygu

Ganwyd Bausch yn Solingen, y trydydd a'r ieuengaf o blant Awst ac Anita Bausch, a oedd yn berchen ar fwyty gydag ystafelloedd cysgu. Roedd y bwyty yn lle delfrydol iddi ddechrau perfformio - o oedran ifanc iawn. Roedd hi'n perfformio i'r gwesteion yn y gwesty, yna fe sylweddolodd ei rhieni fod ganddi botensial.

Pan yn 15 mlwydd oed, cafodd Pina ei derbyn i astudio yn Folkwangschule (Academi Folkwang). Roedd yr ysgol yn cael ei gyfarwyddo gan Kurt Jooss, un o arloeswyr math newydd o theatr ddawns o'r enw Tanztheater, oedd yn cysylltu dawns, gwaith dramatig neu theatr.

Ar ôl graddio yn 1959, gadawodd Bausch yr Almaen gydag ysgoloriaeth gan y German Academic Exchange Service er mwyn parhau gyda'i hastudiaethau yn Juilliard School yn Efrog Newydd yn 1960, ble roedd Antony TudorJosé LimónAlfredo Corvino, a Paul Taylor yn dysgu yno. Roedd Bausch yn perfformio gyda Tudor yn y Metropolitan Opera Ballet Company, a gyda Paul Taylor yn y New American Ballet. Cafodd Taylor ei wahodd yn 1960 i berfformio darn newydd o waith o'r enw Tablet yn Spoleto, yr Eidal, fe aeth a Bausch gydag ef. Yn Efrog Newydd, fe berfformiodd Bausch gyda Chwmni Ddawns Paul Sanasardo a Donya Feuer ac fe gyd-weithiodd ar ddau ddarn gyda nhw yn 1961. Yn Efrog Newydd, fe ddatganodd Pina "Mae Efrog Newydd fel jwngl ond ar yr un pryd, mae'n rhoi'r ymdeimlad o ryddid. Yn y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi darganfod fy hunan."

Yn 1962, ymunodd Bausch a sioe newydd Jooss, Folkwang-Ballet (Ballet Folkwang) fel unawdydd a chynorthwyodd Jooss ar nifer o'i ddarnau. Yn 1968, fe aeth ati i goreograffi ei darn cyntaf  Fragmente (Darnau), i gerddoriaeth Béla Bartók. Yn 1969, fe ddilynodd Jooss fel cyfarwyddwr artistig y cwmni.

Cyfeiriadau

golygu