Mae Piwhane (Saesneg: Spirits Bay) yn fae ar ben gogleddol penrhyn Aupouri, sy’n arwain at Cape Reinga, pen gogleddol Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Mae llwybr, 8.5 cilomedr o hyd yn mynd o un pen i’r llall.

Piwhane
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladSeland Newydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.437°S 172.822°E Edit this on Wikidata
Map

Hanes a Diwylliant golygu

Llwyth Maori yr ardal yw Ngāti Kurī.[1]

Enwyd y bae Piwhane / Spirits Bay yn 2015.[2][3]

Mae’r bae yn lle cysegredig yn niwylliant Maori. Mae ysbrydion y meirw yn ymgasglu ger hen goeden Pohutukawa yno cyn mynd i’w bywyd nesaf.[4]

Mae gan y bae 3 enw, Piwhane a Kapowairua.Mae’r ail enw yn golygu “dal yr ysbryd”, ac yn dod o ddywediad gan Tōhē, arweinydd y llwyth Ngāti Kahu.[5]

Natur a bywyd gwyllt golygu

Mae nifer o adar yn byw yn y bae, gan gynnwys Hwyaden Baradwys, Hutan Seland Newydd, Pioden y Môr a Môr-wennol Fwyaf. Mae’r Moscito yn gyffredin. Mae’r planhigion yn cynnwys Gwynwydden Paraha.[6]

Cyrhaeddod dros 80 Morfil ddu traeth Piwhane ym Medi 2010; bu farw tua hanner ohonynt.[7] Cymerwyd y gweddill i draeth Rarawa i’w lansio yn ôl i’r môr[8] a goroesodd y mwyafrif.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hawliau hanesyddol, Ngati Kuri a’r Goron
  2. Gwefan Gazetteer seland Newydd
  3. Gwefan gazette.gov.nz; Newid enwau, Cytundeb Waitangi: Ngāti Kuri, Te Aupouri, Te Rarawa a NgāiTakoto
  4. "Gwefan itravelnz.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-28. Cyrchwyd 2022-01-03.
  5. Muriwhenua tribes: Ancestors. Gwyddoniadur Te Ara Seland Newydd.
  6. "Gwefan www.new-zealand-vacation.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-23. Cyrchwyd 2022-01-15.
  7. "Gwefan msn.co.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-05. Cyrchwyd 2022-01-26.
  8. Gwefan www.stuff.co.nz
  9. Spirits Bay Gwefan Otago Daily Times