Plât ffotograffig

Daeth platiau ffotograffig o flaen ffilm ffotograffig fel cyfrwng ar gyfer creu delweddau ffotograffig. Byddai emylsiwn halen arian a oedd yn sensitif i olau yn cael ei daenu ar blât gwydr, fel arfer yn deneuach na gwydr ffenestr gyffredin, yn lle ffilm plastig clir.

Negydd ar blât

Roedd platiau gwydr yn llawer gwell na ffilm ar gyfer delweddu ansawdd uchel gan ei bod yn sefydlog iawn ac yn llai tebygol o blygu neu anffurfio, yn arbennig mewn fframiau fformat mawr ar gyfer delweddu llydan. Roedd platiau cynnar yn defnyddio'r proses colodion gwlyb. Ildiodd y proses plât gwlyb ei le yn y 19g i blatiau sych gelatin. Diflannodd deunydd platiau gwydr ffotograffig bron yn llwyr o'r farchnad erbyn blynyddoedd cynnar yr 20g, wrth i fwy o ffilmiau llai bregus a mwy cyfleus gael eu mabwysiadu. Er hynny, mae'n debyg bod platiau ffotograffig yn dal i gael eu defnyddio gan un busnes ffotograffig yn Llundain tan y 1970au,[1] ac roeddynt yn dal i gael eu defnyddio yn eang gan y gymuned seryddol broffesiynol mor ddiweddar a'r 1990au. Mae gweithdai ar ffotograffiaeth ar blatiau gwydr fel cyfrwng amgen neu at ddefnydd artistig yn dal i gael eu cynnal.

Adeliadwyd camera oedd yn cael ei alw yn "y Mamoth" a oedd yn pwyso 1,400 pwys gan George R. Lawrence yn 1899, yn benodol er mwyn ffotograffu tren "The Alton Limited" a oedd yn eiddo i'r Chicago & Alton Railway. Cymerai ffotograffau ar blatiau gwydr a oedd yn mesur 8 × 4.5 troedfedd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Harrow Photos - History of the Hills & Saunders Photographic Collection". Harrow School. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2009. Cyrchwyd 8 Chwefror 2016.
  2. "The Largest Photograph in the World of the Handsomest Train in the World" (PDF). Chicago & Alton Railway. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-02-07. Cyrchwyd 30 January 2016.