Bolsiefic
(Ailgyfeiriad oddi wrth Plaid Bolsiefic)
Roedd Bolsiefic (Rwseg: большеви́к, sef "mwyafrif") yn enw ar aelodau o garfan radicalaidd o'r Blaid Lafur Cymdeithasol Rwsiaidd yn Rwsia adeg Chwyldro Rwsia a sefydlu comiwnyddiaeth yn y wlad. Daeth y Bolsieficiaid i gael eu harwain gan Vladimir Ilyich Lenin. Eu prif wrthwynebwyr oedd y Mensieficiaid cymhedrol.