Plaid y Refferendwm

Roedd Plaid y Refferendwm yn blaid Ewrosgeptig yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hystyriwyd yn 'blaid un mater' ac fe'i ffurfiwyd gan Syr James Goldsmith i gystadlu yn Etholiad Cyffredinol 1997 y Deyrnas Unedig. Roedd y blaid yn galw am refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.

Plaid y Refferendwm
Referendum Party
Sefydlwyd1994[1]
Daeth i ben1997
Rhestr o idiolegauEwrosgeptig
Asgell-Dde poblogaidd

I raddau, gellir dweud mai dyma oedd rhagflaenydd Plaid Annibyniaeth y DU.

Sefydlu

golygu

Cyhoeddwyd sefydlu'r blaid yn Nhachwedd 1994 gan Goldsmith.[1] Ym Medi 1995 cychwynnwyd ar y gwaith o baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.[2] Erbyn Hydref hawliwyd fod gan y blaid 50,000 o aelodau a chynhaliwyd eu cyhadledd cyntaf yn Brighton.[3]

Polisi

golygu

Eu hunig bolisi, mewn gwirionedd, oedd y dylid cynnal refferendwm ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Aelod Seneddol

golygu

Etholwyd un AS i'r Tŷ Cyffredin, am gyfnod o bythefnos, cyn diddymu'r Senedd ym Mawrth 1997: George Gardiner, cyn AS y Blaid Geidwadol dros Reigate ac a newidiodd ei got.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Wood, Nicholas (28 Tachwedd 1994). "Goldsmith forms a Euro referendum party". The Times. t. 1.
  2. Rawnsley, Andrew (3 Medi 1995). "Week in Politics: Jim could fix it for a referendum". The Observer. t. 11.
  3. Pierce, Andrew (21 Hydref 1996). "Goldsmith pushes for membership of 400,000; Conference". The Times. t. 8.