Organebau bychain o wahanol fathau sy'n byw yn rhydd yn y dŵr yw plancton. Mae'r rhain yn ffurfio rhan hanfodol a sylfaenol o'r gadwyn fwyd yn y môr. Gall y plancton fod yn facteria, yn blanhigion neu'n anifeiliaid bychan. Daw'r enw o'r Groeg πλανκτος ("planktos"), sy'n golygu "crwydryn".

Tomopteris, un esiampl o'r anifeiliaid yn y plancton

Fel rheol nid yw'r placton yn symud llawer o le i le trwy nofio; yn hytrach, maent yn cael eu symud yma ac acw gan gerrynt. Maent yn aml hefyd yn symud i fyny ac i lawr yn y dŵr, gan godi i'r wyneb yn y nos a gostwng yn ystod y dydd. Gall rhai mathau nofio o gwmpas yn effeithiol.

Mae plancton yn fwyd i lawer o anifeiliaid eraill yn y môr: o folwsgiaid megis cocos i forfilod.