Planhigyn eilflwydd
Planhigyn blodeuol sy'n cymryd dwy flynedd, yn gyffredinol mewn hinsawdd dymherus, i gwblhau gylchred bywyd yw planhigyn eilflwydd.
Enghraifft o'r canlynol | term |
---|---|
Math | planhigyn |
Rhagflaenwyd gan | planhigyn unflwydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y flwyddyn gyntaf, mae'r planhigyn eilflwydd yn datblygu ei ddail, ei goesynnau a'i wreiddiau. Fel arfer, mae'r coesyn yn fyr ac mae'r dail yn isel i'r llawr. Nesaf, mae'r planhigyn yn mynd i mewn i gyfnod o gysgadrwydd yn ystod y misoedd oerach. Mae angen triniaeth oer ar lawer o blanhigion eilflwydd cyn iddyn nhw flodeuo. Yn ystod y gwanwyn neu'r haf nesaf, mae coesyn y planhigyn yn tyfu'n hirach. Yna mae'r planhigyn yn blodeuo, ac yn cynhyrchu ffrwythau a hadau cyn iddo farw o'r diwedd. Mae llawer llai o blanhigion eilflwydd na phlanhigion lluosflwydd neu blanhigion unflwydd.