Planhigyn llysieuaidd

Planhigyn fasgwlaidd nad oes ganddo goesyn prennaidd yw planhigyn llysieuaidd. Mae'r categori hwn o blanhigion yn fawr iawn, ac mae'n cynnwys llawer o blanhigion lluosflwydd, a bron pob planhigyn unflwydd a phlanhigion eilflwydd.

Delwedd:Steppe flora, Grassland, Rostov-on-Don, Russia.jpg, Shatili, Flora, Grass meadows, Georgia.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmath o blanhigyn Edit this on Wikidata
MathEmbryophyta Edit this on Wikidata
Rhan obotaneg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHemicryptophyte, cryptophyte, Therophyte Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r rhan fwyaf o blanhigion llysieuaidd yn blanhigion sy'n tyfu'n isel, yn wahanol i blanhigion prennaidd fel coed a llwyni. Fel arfer mae ganddyn nhw goesynnau gwyrdd meddal sy'n brin o lignin ac mae eu twf uwchben y ddaear yn fyrhoedlog. Mewn cyferbyniad, mae gan planhigion prennaidd goesynnau uwchben y ddaear sy'n aros yn fyw, hyd yn oed yn ystod y gaeaf, ac yn tyfu egin y flwyddyn nesaf o'r rhannau sy'n aros uwchben y ddaear.

CyfeiriadauGolygu