Nofel led-hunangofiannol am brofiad carcharor cydwybodol gan y llenor David James Jones (Gwenallt) yw Plasau'r Brenin (cyhoeddwyd 1934).

Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn y Rhyfel Byd Cyntaf, carcharwyd Gwenallt yn Wormwood Scrubs a Dartmoor o 1917 hyd 1919 ac ysgrifennodd Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw.

Mae'n nofel hunangofiannol felly, gyda'r prif gymeriad 'Myrddin Tomos' yn cynrychioli Gwenallt ei hun. Ond yn hytrach na chanolbwyntio ar fywyd y carchar ei hun, er bod hynny'n fframwaith y nofel, mae'r awdur yn ymroi i ddisgrifio ei fro enedigol yn Sir Gaerfyrddin a'r gymdeithas Gymraeg ddiwylliedig fel y bu cyn y Rhyfel Mawr. Mae'n portreadu hefyd ddatblygiad syniadau gwleidyddol Gwenallt.

Yn ôl Gwenallt, ffrwyth llw rhyngddo a'r llenor T. Hughes Jones i ysgrifennu nofel yn seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd y prinder mewn llyfrau Cymraeg ar y pwnc, yw'r nofel. Cyhoeddodd T. Hughes Jones ei nofel yntau Amser i Ryfel wedi'i seilio ar ei brofiad fel milwr. Dywedodd Gwenallt mai darllen cyfieithiad Saesneg o nofel fawr Dostoievsky, The House of the Dead, a fu ei ysbrydoliaeth lenyddol bennaf.[1]

Manylion cyhoeddi

golygu
  • D. Gwenallt Jones, Plasau'r Brenin (Aberystwyth, 1934; argraffiad newydd, Gwasg Gomer, 1968)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Plasau'r Brenin, adargraffiad 1968.

Gweler hefyd

golygu