Dartmoor
Gwaun yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Dartmoor. Mae'n barc cenedlaethol (arwynebedd 954 km2). Fe'i enwir ar ôl Afon Dart. Ei bwynt uchaf yw High Willhays (621m).
Math | gweundir |
---|---|
Ardal weinyddol | Dyfnaint |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Dartmoor |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 954 km² |
Uwch y môr | 621 metr |
Cyfesurynnau | 50.57°N 4°W |
Deunydd | gwenithfaen |
Dydy'r rhan fwyaf o'r waun ddim yn greigiog, ond ceir creigiau ar y copaon a enwir yn torau. Creigiau gwenithfaen ydynt. Mae yma hefyd y clwstwr mwyaf drwy wledydd Prydain o gylchoedd cerrig: tua 340 ohonyn nhw.[1]
Caiff rhannau o'r waun eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymarfer saethu. Mae'r mapiau'n eu dangos fel "danger area" (sef "ardaloedd peryglus"). Mae'r weinyddiaeth yn hedfan baneri coch i rybuddio pobl bod yr ardal yn cael ei defnyddio felly.