Play That Funky Music

Mae "Play That Funky Music" yn gân a ysgrifennwyd gan Rob Parissi ac a recordiwyd gan y band Wild Cherry. Roedd y perfformwyr ar y recordiad yn cynnwys y prif ganwr Parissi, y gitarydd Bryan Bassett, y basydd Allen Wentz a'r drymiwr Ron Beitle, ynghyd â chwaraewyr sesiwn Chuck Berginc, Jack Brndiar (trympedi), a Joe Eckert a Rick Singer (sacsoffonau) ar y riff sy'n rhedeg trwy gydol penillion y gân. Roedd y sengl yn rhif un ar y siart Billboard Hot 100 ar 18 Medi 1976, ac roedd hefyd yn rhif un ar y siart Hot Soul Singles. Dyfarnwyd y sengl yn sengl blatinwm gan y Recording Industry Association of America am werthu dros 2 filiwn o recordiau. Yn y pen draw, gwerthasant 2.5 o recordiau yn yr Unol Daleithiau.[1]

Rhyddhaodd y rapiwr Americanaidd Vanilla Ice gân a oedd yn cynnwys dehongliad o felodi "Play That Funky Music". Yn seiliedig ar y sengl hon, rhoddwyd cytundeb recordio i Vanilla Ice, a rhyddhaodd yr albwm Hooked ym mis Ionawr 1989, a oedd yn cynnwys "Play That Funky Music" yn ogystal â'i 'B-side', "Ice Ice Baby".[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Platinum Singles Top '76–'77 Years". Billboard (yn Saesneg). Cyf. 90 rhif. 34. t. 114.
  2. Behind The Music: Vanilla Ice. Moment occurs at 10:45