Twr Tewdws
(Ailgyfeiriad o Pleiades)
Clwstwr sêr wedi'i leoli yng nghytser y Tarw (Taurus) yw y Twr Tewdws neu'r Pleiades, a adwaenir hefyd fel y Saith Chwaer a Messier 45 (M45).[1][2] Dyma un o'r clystyrau sêr agosaf at y Ddaear ac un o'r amlycaf i'r llygad noeth yn yr awyr nos.[3]
Mae chwech seren yn hawdd i weld gyda'r llygad noeth, a mae'r seren ddisgleiriaf, Alcyone, o'r trydydd maintioli. Gwelir saith seren o leoedd tywyll ymhell o oleuadau trefol, a gall rhai bobl gyda golwg dda weld mwy. Mae dwsinau yn ymddangos trwy binocwlar neu delesgop bach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Hydref 2016.
- ↑ "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 25 Hydref 2016. (Yn Saesneg.) Chwiliad am yr Pleiades yn adnodd Simbad.
- ↑ Evans, Aneurin (1984), "Hanes yr Haul a'r Sêr–II", Y Gwyddonydd 22 (3): 104–108, https://journals.library.wales/view/1394134/1406652/35, adalwyd 10 Ebrill 2017