Cytser y Sidydd yw Taurus, sef gair Lladin am 'darw'. Mae wedi'i leoli rhwng Aries, Gemini, Perseus ac Orion. Ei symbol yw (Unicode ♉). Mae'n un o 48 cytser a restrwyd gan yr athronydd Ptolemi yn yr Ail ganrif, ac un o'r 88 cytser swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol. Tau ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser.

Taurus
Enghraifft o'r canlynolcytser, cytser zodiacal Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAldébaran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyster Taurus yn dangos y seren Aldebaran a chlwstwr sêr y Pleiades
Cyster Taurus yn yr awyr nos, gyda'r seren Aldebaran a chlwstwr sêr yr Hyades yn y canol. Mae'r clwstwr y Pleiades, neu'r Twr Tewdws, uwchben y canol.
Cyster Taurus yn atlas sêr y seryddwr Hevelius o'r flwyddyn 1690. (Mae'r darlun yn dangos y wybren fel y mae hi'n ymddangos ar glôb wybrennol gyda chwith a'r dde wedi eu cyfnewid.)

Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Taurus yn y wybren ym mis Tachwedd, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Rhagfyr a Chwefror mae'r cytser yn rhan amlwg o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi.

Mae Taurus yn cynnwys y seren ddisglair Aldebaran, sy'n dangos lliw oren i'r llygad noeth. Yn y cytser hefyd yw'r Hyades a'r Pleiades, dau o'r clystyrau sêr agosaf i'r Cysawd yr Haul.

Mae rhan o'r Llwybr Llaethog yn mynd trwy Taurus, a felly gwelir nifer o nifylau a chlystyrau sêr eraill yn y cytser. Ymlith y rhain yw'r Nifwl y Cranc, neu Messier 1, gweddill uwchnofa arsyllwyd yn y flwyddyn 1054.

Y Pleiades, neu'r Twr Tewdws, clwster sêr sy'n hawdd i'w weld â'r llygad noeth
Nifwl y Cranc, Messier 1, mewn llun recordiwyd gan Telesgop Gofod Hubble
Simeis 147, nifwl yn Taurus
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.