Pocer
Teulu o gemau cardiau yw pocer sydd â rheolau tebyg ar fetio a safleoedd dyrneidiau. Amcan y gêm yw i ennill arian neu tsips trwy ddal y dyrnaid gorau ar ddiwedd y rhaniad.[1] Y prif ffurfiau o bocer yw Texas hold 'em, Omaha hold 'em, styd pocer a phocer tynnu.

Ystyrir pocer yn gêm gardiau genedlaethol yr Unol Daleithiau,[1] ond mae'n boblogaidd ar draws y byd. Caiff twrnameintiau eu darlledu ar deledu, ac mae'n gêm boblogaidd ar-lein.[2]
Un o'r menywod mwyaf llwyddiannus yn y gem yw Annie Duke a anwyd ar 13 Medi 1965 yn New Hampshire ac sydd hefyd yn awdur poblogaidd ac yn ddyngarwr.
Mae pocer wedi cynyddu mewn poblogrwydd ers dechrau'r 20fed ganrif ac wedi mynd o fod yn weithgaredd hamdden yn bennaf wedi'i gyfyngu i grwpiau bach o selogion i fod yn weithgaredd poblogaidd iawn,[3] ar gyfer cyfranogwyr a gwylwyr, gan gynnwys ar-lein, gyda llawer o chwaraewyr proffesiynol a miliynau o ddoleri. gwobrau twrnamaint.[4]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 Arnold, Peter. Chambers Card Games (Caeredin, Chambers, 2007), t. 250.
- ↑ (Saesneg) Going all in for online poker. Newsweek (14 Awst 2005). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
- ↑ Roya, Will (2021). Card night : classic games, classic decks, and the history behind them, 52 Games for all ages (arg. First edtion). New York. ISBN 978-0-7624-7351-9. OCLC 1178868181.
- ↑ "Top 10 moments in poker history". www.casinocitytimes.com. Cyrchwyd 2023-04-15.
Darllen pellachGolygu
- Mendelson, Paul. The Mammoth Book of Poker (Llundain, Robinson, 2008).