Annie Duke
Chwaraewr pocer proffesiynol, Americanaidd yw Annie Duke (née Lederer; ganwyd 13 Medi 1965) sydd hefyd yn awdur ac yn ddyngarwr.
Annie Duke | |
---|---|
Ganwyd | Anne LaBarr Lederer 13 Medi 1965, 1965 Concord |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr pocer, llenor, dyngarwr, seicolegydd |
Tad | Richard Lederer |
Mam | Rhoda S. Lederer |
Gwobr/au | Cyfres Pocer y Byd |
Chwaraeon |
Fe'i ganed yn Concord, New Hampshire ar 13 Medi 1965. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol Pennsylvania, Ysgol St. Paul's, New Hampshire.[1]
Mae ganddi freichled aur Cyfres Byd Poker (WSOP; sef World Series of Poker) ers 2004 ac roedd yn arfer bod yn enillydd arian mwyaf ymysg menywod yn hanes y WSOP (gyda Vanessa Selbst yn ei dilyn). Enillodd Duke y World Series of Poker Tournament of Champions yn 2004 a'r National Heads-Up Poker Championship yn 2010. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hyfforddi ar gyfer chwaraewyr pocer, gan gynnwys Decide to Play Great Poker a The Middle Zone, a chyhoeddodd ei hunangofiant , How I Raised, Folded, Bluffed, Flirted, Cursed, and Won Millions at the World Series of Poker yn 2005. [2]
Cyd-sefydlodd Duke, gyda'r actor Don Cheadle, Ante Up for Africa, sefydliad di-elw, yn 2007 er budd elusennau sy'n gweithio mewn gwledydd yn Affrica, ac mae wedi codi arian ar gyfer elusennau eraill a di-elw trwy chwarae a chynnal twrnameintiau poker elusennol.
Magwareth
golyguGaned Anne LaBarr Lederer, yn Concord, New Hampshire, lle dysgodd ei thad lenyddiaeth Saesneg sydd hefyd yn awdur; athrawes hefyd oedd ei mam, Rhoda Lederer. Roedd y ddau'n chwaraewyr cardiau; mae ei brawd Howard a'i chwaer Katy hefyd yn chwaraewyr cardiau proffesiynol.[3] Ysgrifennodd y bardd Katy Lederer, gofiant am y teulu Lederer.[4][4][5][6][7][8]
Ysgol a phrifysgol
golyguTra'n mynychu Ysgol St Paul, gweithiodd Annie yn Kentucky Fried Chicken, sef ei swydd gyntaf. Cofrestrodd ym Mhrifysgol Columbia lle dilynodd radd-dwbwl mewn Saesneg a seicoleg.[5] Ar ôl graddio o Columbia, dilynodd Ph.D. mewn seicoleg ym Mhrifysgol Pennsylvania, gan ganolbwyntio ar ieithyddiaeth wybyddol (cognitive linguistics) ac ysgrifennu ei thraethawd hir ar ddamcaniaeth o sut mae plant yn dysgu eu hiaith gyntaf o'r enw "sodro cystrawennol" (syntactic bootstrapping). Ar gyfer ei hastudiaethau graddedig dyfarnwyd cymrodoriaeth y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol iddi. Ym 1991, un mis cyn amddiffyn ei thraethawd doethuriaeth, penderfynodd nad oedd bellach yn dymuno dilyn y byd academaidd a gadawodd y Brifysgol.[6][9]
Ym 1992, priododd Ben Duke, a symudodd i Billings, Montana. Rhannodd y cwpl eu hamser rhwng Las Vegas a Montana rhwng 1992 a 2002, pan symudon nhw i Portland, Oregon. Roeddent yn briod tan 2004 ac roedd ganddynt bedwar o blant. Yn 2005 symudodd Duke a'i phlant i Hollywood Hills, California.[4][9][10][11]
Gyrfa cynnar
golyguDechreuodd chwarae poker yn y Crystal Lounge, bar lleol yn Billings, a oedd ag ystafell pocer gyfreithlon. Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus yn chwarae yn Montana, ysgogodd ei brawd hi i gystadlu mewn twrnameintiau yng Nghyfres Byd Poker (WSOP) 1994 yn Las Vegas. O fewn y mis cyntaf, enillodd $70,000 a phenderfynodd symud i Las Vegas i ddilyn gyrfa pocer broffesiynol.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cyfres Pocer y Byd .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Annie Duke". Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 27 Mawrth 2024.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2024.
- ↑ Friess, Steve (2 gorffennaf 2007). "A pair of poker aces". The Boston Globe. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ 4.0 4.1 4.2 "Anne LaBarr Lederer is married to Benjamin B. Duke in Connecticut". The New York Times. 26 Ebrill 1992. Cyrchwyd 5 Mawrth 2013.
- ↑ 5.0 5.1 Cheney, Dina (Gorffennaf 2004). "Flouting Convention, Part II: Annie Duke Finds Her Place at the Poker Table". Columbia College Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-24. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ 6.0 6.1 Jones, Del (July 20, 2009). "Know yourself, know your rival". USA Today. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ Deitsch, Richard (26 Mai 2005). "Q&A with Annie Duke". Sports Illustrated. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-14. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ Sauer, Mark (9 Hydref 2005). "Annie Duke found her calling". Union Times. San Diego. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ 9.0 9.1 Bellafante, Ginia (19 ionawr 2006). "Dealt A Bad Hand? Fold 'em. Then Raise". The New York Times. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Darrow, Chuck (June 8, 2010). "Annie Duke, Flush With Success". The Philadelphia Inquirer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 21 Chwefror 2013.
- ↑ Jamie Berger (Spring 2002). "Annie Duke, Poker Pro". Columbia Magazine. Cyrchwyd 4 Mawrth 2013.