Pokémon Detective Pikachu (ffilm)
Ffilm ddirgelwch ffantasi yw Pokémon Detective Pikachu (2019). Cafodd ei chyfarwyddo gan Rob Letterman, a cyd-ysgrifennwyd y sgript gan Dan Hernandez, Benji Samit a Derek Connolly yn seiliedig ar stori gan Hernandez, Samit a Nicole Perlman. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri a'r gêm fideo Detective Pikachu (2016).[1] Cafodd ei chynhyrchu gan Warner Bros. Pictures, Legendary Pictures a The Pokémon Company, mewn cydweithrediad â Toho Co, Ltd. Dyma'r addasiad cyffro byw cyntaf yn y fasnachfraint.[2] Mae Ryan Reynolds yn serennu yn y ffilm fel llais a mudiant wyneb Pikachu, gyda Justice Smith, Kathryn Newton, Suki Waterhouse, Omar Chaparro, Chris Geere, Ken Watanabe a Bill Nighy hefyd yn actio ynddi fel cymeriadau byw.
Cynhaliwyd y ffilmio ar gyfer Pokémon Detective Pikachu rhwng Ionawr a Mai 2018 yn Colorado, Lloegr a'r Alban. Fe'i rhyddhawyd yn Japan ar 3 Mai, 2019,[3][4] ac yn yr Unol Daleithiau ar 10 Mai, 2019, wedi'i dosbarthu gan Warner Bros. Pictures mewn RealD 3D a Dolby Cinema.[5] Dyma'r ffilm Pokémon gyntaf i'w dosbarthu yn theatrig yn yr Unol Daleithiau gan Warner Bros. ers Pokémon 3: The Movie (2000), a gyda thystysgrif PG gan yr MPAA, dyma'r ffilm Pokémon gyntaf i gael eu rhyddhau yn yr Unol Daleithiau i dderbyn gradd G gan y grŵp.[6] Derbyniodd y Ditectif Pikachu adolygiadau cymysg gan feirniaid, gyda chanmoliaeth i ddyluniadau'r creaduriaid a pherfformiad Reynolds, ond beirniadaeth o'r plot fel un di-fflach.[7][8] Ystyrir mai hwn yw'r addasiad ffilm cyffro byw gorau o gêm fideo, yn seiliedig ar adolygiadau a gasglwyd ar Rotten Tomato. Cafodd y ffilm ymateb cadarnhaol hefyd gan gynulleidfaoedd a holwyd gan CinemaScore a PostTrak.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Orange, Alan (2019-02-26). "Detective Pikachu Trailer #2 Reveals Mewtwo and More Iconic Pokemon". MovieWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-02-27.
- ↑ Sharf, Zack (February 26, 2019). "'Detective Pikachu' Official Trailer: Ryan Reynolds Brings Pokémon Mayhem". IndieWire. Cyrchwyd March 1, 2019.
- ↑ Famitsu. March 20, 2019 https://www.famitsu.com/news/201903/20173501.html. Cyrchwyd March 20, 2019. Missing or empty
|title=
(help) - ↑ 4Gamer.net. March 20, 2019 https://www.4gamer.net/games/420/G042085/20190320022/. Cyrchwyd March 20, 2019. Missing or empty
|title=
(help) - ↑ Kit, Borys (December 11, 2017). "Ryan Reynolds' 'Detective Pikachu' Gets 2019 Release Date". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd January 25, 2018.
- ↑ Peters, Megan. "'Detective Pikachu' Gets Official PG Rating". Comicbook.com. Cyrchwyd March 7, 2019.
- ↑ Lexy Perez; Lauren Huff (May 2, 2019). "'Pokémon Detective Pikachu': What the Critics Are Saying". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd May 3, 2019.
- ↑ Josh Weiss (May 3, 2019). "Critics call Detective Pikachu a 'bonkers roller coaster ride' in first reviews". Syfy. Cyrchwyd May 5, 2019.