Pokémon
Cyfres o gemau fideo a grëwyd gan Satoshi Tajiri tua 1995 ac sy'n eiddo i Nintendo yw Pokémon (Japaneg: ポケモン). Crëwyd y gemau ar gyfer y Nintendo Game Boy yn wreiddiol ym 1996 yn Japan, ym 1998 yn yr Unol Daleithiau, ac ym 1999 yn Ewrop ac Awstralia. Y gemau cyntaf oedd Pokémon Coch, Pokémon Glas (Pokémon Gwyrdd yn Japan) a Pokémon Melyn. Cawsant eu dilyn gan Pokémon Aur, Pokémon Arian a Pokémon Crisial (rhwng 1999 a 2001, y daeth y Game Boy Colour); Pokémon Rhuddem, Pokémon Saffir a Pokemon Emrallt (rhwng 2002 a 2005 am y Game Boy Advance); Pokémon Fflamgoch a Pokémon Deilenwerdd (lansiwyd yn 2004 ar gyfer y Game Boy Advance. Mae'r rhain yn ailwampiadau o'r gemau gwreiddiol); a Pokémon Diemwnt, Pokémon Perl a Pokémon Platinwm (rhwng 2006 2009 am y Nintendo DS). Mae Pokémon CalonAur a Pokémon EnaidArian (ailwampiadau o Pokémon Aur a Pokémon Arian) bellach (o 2009 ymlaen) ar gael yn Japan ac fe fyddent ar gael yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop yng nghanol 2010.
Pwrpas y gemau yw naill ai casglu pob un o'r 493 o greaduriaid ffug sy'n bodoli o fewn y drwydded, neu (wrth ddefnyddio tîm o 6 Pokémon) i frwydro fel hyfforddwr Pokémon ac i guro pob hyfforddwr arall, yna ennill y teitl o Pencampwr Pokémon y Byd.
Mae'r fasnachfraint yn cynnwys anime, manga, cardiau gwr masnachu, teganau, llyfrau a chyfryngau eraill. Erbyn hyn mae'r gyfres wedi gwneud biliynau o ddoleri ac yn 2009 cafodd y gyfres gofnod yn y Guinness Book of World Records o dan y teitl "Best Selling RPG of all time".
Bydd gem newydd sef Pokemon Sword and Shield yn cael ei ryddhau Tachwedd 15fed 2019.
Mae cymeraid newydd sef Impedimp ac nid yw wedi cael ei gyhoeddi eto.
GêmauGolygu
Enw Saesneg | Cyfieithiad Cymraeg | Blwydd o Rifyn |
---|---|---|
Pokémon Red and Blue | Pokémon Coch a Glas | 1998 |
Pokémon Yellow | Pokémon Melyn | 1999 |
Pokémon Gold and Silver | Pokémon Aur ac Arian | 2000 |
Pokémon Crystal | Pokémon Crisial | 2001 |
Pokémon Ruby and Sapphire | Pokémon Rhuddem a Saffir | 2003 |
Pokémon FireRed and LeafGreen | Pokémon TânCoch a DalenWyrdd | 2004 |
Pokémon Emerald | Pokémon Emrallt | 2005 |
Pokémon Diamond and Pearl | Pokémon Deimwnt a Pherl | 2007 |
Pokémon Platinum | Pokémon Platinwm | 2009 |
Pokémon HeartGold and SoulSilver | Pokémon CalonAur ac EnaidArian | 2010 |
Pokémon Black and White | Pokémon Du a Gwyn | 2011 |
Pokémon Black 2 and White 2 | Pokémon Du 2 a Gwyn 2 | 2012 |
Pokémon X and Y | Pokémon X a Y | 2013 |
Pokémon Omega Ruby ac Alpha Saphire | Pokémon Omega Ruby ac Alpha Saphire | 2014 |
Pokémon Sun a Moon | Pokémon Sun a Moon | 2016 |
Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon | Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon | 2017 |
Pokémon Let's Go Pikachu a Let's Go Eevee | Pokémon Let's Go Pikachu a Let's Go Eevee | 2018 |
Pokémon Sword a Shield | Pokémon Sword a Shield | 2019 |
CymeriadauGolygu
Dolenni allanolGolygu
- http://pokemoncymraeg.jimdo.com/ - Cefnogwe ar gyfer Pokémon Cymraeg