Pokémon Quest (gêm fideo)
Gêm fideo cyffro-antur yn y gyfres Pokémon yw Pokémon Quest. Cafodd ei datblygu gan Game Freak a'i chyhoeddi gan Nintendo a The Pokémon Company. Fe'i rhyddhawyd ar gyfer Nintendo Switch ym mis Mai 2018, gyda fersiynau ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS wedi'u rhyddhau ym mis Mehefin 2018. O fewn diwrnodau o'i lansio ar y Switch, roedd wedi gweld dros filiwn o lawrlwythiadau ledled y byd, ac wedi cyrraedd mwy na 7.5 miliwn o lawrlwythiadau ar ôl wythnos.
Mae dyluniad Pokémon Quest ar ffurf blociau, tebyg i Minecraft. Mae'r gêm wedi'i lleoli ar ynys o'r enw 'Tumblecube Island', sy'n cynnwys Pokémon siâp ciwb o'r enw "Pokéxel".[1] Y Pokémon sy'n ymddangos yn y gêm yw'r rhai gwreiddiol o'r rhanbarth Kanto yn Pokémon Red and Blue.[2] Yn y gêm, mae chwaraewyr yn rheoli'r gwersyll a thîm Pokémon. Prif dasg y chwaraewr yw cwblhau'r holl lefelau ar yr ynys, gan guro'r Pokémon gwyllt. Gellir rhannu'r broses gêm yn bedair rhan: rheoli gwersylloedd, mynd ar deithiau, hyfforddi a gwneud y gorau o Pokémon, a denu Pokémon newydd. Mae'r chwaraewr yn paratoi prydau bwyd yn y gwersyll er mwyn denu'r Pokémon newydd, ac mae gwahanol brydau yn denu gwahanol rai.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ DeFreitas, Casey (May 29, 2018). "Everything We Know About Pokemon Quest for Nintendo Switch". IGN (yn Saesneg). Cyrchwyd May 30, 2018.
- ↑ Farokhmanesh, Megan (May 29, 2018). "The Nintendo Switch is getting a free Pokemon RPG today". The Verge. Cyrchwyd May 30, 2018.