Android (system weithredu)

System weithredu ar sail Linux, ar gyfer ffonau symudol megis ffonau clyfar a thabledi yw Android. Datblygwyd gan yr Open Handset Alliance, o dan arweinyddiaeth Google, a chwmnïau eraill.[1]

Android
[[File:Android phones.jpg, Android Gingerbread Easter egg.jpg, Android Honeycomb Easter egg.jpg, Android Ice Cream Sandwich Easter egg.jpg, Android Jelly Bean Easter egg.jpg, Android KitKat Easter egg.jpg, Android Lollipop Easter egg.jpg, Android Marshmallow Easter egg.jpg, Android Nougat Easter egg.jpg, Android Oreo Easter egg.jpg, Android Samsung Smartphones.jpg, Android 11 Homescreen.png|frameless|upright=1]]
Enghraifft o'r canlynolmobile operating system Edit this on Wikidata
Mathmobile operating system, Platfform cyfrifiadurol Edit this on Wikidata
IaithJapaneg, Rwseg, ieithoedd lluosog, Saesneg, Tsieineeg, Tsieineeg Yue, Eidaleg, Catalaneg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu23 Medi 2008 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
SylfaenyddRich Miner, Andy Rubin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://android.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Symbol logo Android
Logo testun Android
Sgrinlun o'r fersiwn arbrofol cyntaf o Android yn Gymraeg - lleoleiddiad o LineageOS 14.1.

Prynwyd datblygwr cyntaf y dechnoleg, Android Inc., gan Google yn 2005.[2] Datganwyd dosbarthiad Android yn 2007, pan sefydlwyd yr Open Handset Alliance, consortiwm o 86 cwmni caledwedd, meddalwedd, a thelegyfathrebu a oedd yn cysegru eu hunain at ddatblygu safonau agored ar gyfer dyfeisiau symudol.[3] Mae Google yn rhyddhau'r cod Android fel cod agored, o dan y Drwydded Apache.[4] Yr Android Open Source Project (AOSP) sy'n gyfrifol am gynnal a chadw Android, a'i datblygu ymhellach.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Philosophy and Goals. Android Open Source Project. Google. Adalwyd ar 21 Ebrill 2012.
  2.  Ben Elgin (17 Awst 2005). Google Buys Android for Its Mobile Arsenal. Bloomberg Businessweek. Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2011. Adalwyd ar 20 Chwefror 2012. "In what could be a key move in its nascent wireless strategy, Google (GOOG) has quietly acquired startup Android Inc. ..."
  3.  Industry Leaders Announce Open Platform for Mobile Devices. Open Handset Alliance (5 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 17 Chwefror 2012.
  4.  Android Overview. Open Handset Alliance. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  5.  About the Android Open Source Project. Adalwyd ar 20 Chwefror 2012.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: