Pocer
(Ailgyfeiriad o Poker)
Teulu o gemau cardiau yw pocer sydd â rheolau tebyg ar fetio a safleoedd dyrneidiau. Amcan y gêm yw i ennill arian neu tsips trwy ddal y dyrnaid gorau ar ddiwedd y rhaniad.[1] Y prif ffurfiau o bocer yw Texas hold 'em, Omaha hold 'em, styd pocer a phocer tynnu.
Ystyrir pocer yn gêm gardiau genedlaethol yr Unol Daleithiau,[1] ond mae'n boblogaidd ar draws y byd. Caiff twrnameintiau eu darlledu ar deledu, ac mae'n gêm boblogaidd ar-lein.[2]
Un o'r menywod mwyaf llwyddiannus yn y gem yw Annie Duke a anwyd ar 13 Medi 1965 yn New Hampshire ac sydd hefyd yn awdur poblogaidd ac yn ddyngarwr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Arnold, Peter. Chambers Card Games (Caeredin, Chambers, 2007), t. 250.
- ↑ (Saesneg) Going all in for online poker. Newsweek (14 Awst 2005). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
Darllen pellach
golygu- Mendelson, Paul. The Mammoth Book of Poker (Llundain, Robinson, 2008).