Darn o dir isel wedi'i amgáu gan argloddiau sy'n ffurfio endid artiffisial hydrolegol yw polder (Ynganiad Iseldireg: [ˈpɔldər] (Ynghylch y sain ymagwrando)). Mae hynny'n golygu nad oes ganddo gysylltiad â dwr allanol heblaw trwy ddyfeisiadau sy'n cael eu rheoli â llaw.  Mae tri math o polder:

  1. Tir sydd wedi'i adfer o gorff o ddwr, megis llyn neu wely'r mor
  2. Gwastatir llifwaddod sydd wedi'i wahanu o'r mor neu afon gan arglawdd
  3. Corsydd sydd wedi'u gwahanu oddi wrth y dwr sy'n ei amgylchynu gan arglawdd ac sydd wedi'u traenio; mae rhain yn cael eu hadnabod hefyd fel koogs, yn arbennig yn yr Almaen
Delwedd lloeren o Noordoostpolder, Yr Iseldiroedd (595.41 km²)

Mae lefel y tir mewn corsydd sydd wedi'u traenio yn suddo dros amser. Mae pob polder yn y pendraw yn gostwng o dan lefel y dwr o'u hamgylch naill ai ar adegau neu trwy'r amser. Mae dwr yn mynd i mewn i'r polder isel trwy ymdreiddiad o ganlyniad i bwysedd dwr o'r ddaear neu lawiad, neu trwy ddwr yn ei gyrraedd trwy afonydd neu gamlesi. Mae hyn fel arfer yn golygu bod gormod o ddwr yn y polder, sy'n cael ei bwmpio allan neu draenio naill ai trwy agor llifddor ar lanw isel. Rhaid cymryd gofal i beidio a gosod lefel y dwr mewnol yn rhy isel. Bydd tir sydd wedi'i wneud o fawn (a fu'n gors ar un adeg) yn suddo wrth i'r mawn bydru am ei fod yn agored i ocsygen o'r aer. 

Mae bob amser perygl o lifogydd gyda polderau, a rhaid cymryd gofal er mwyn amddiffyn yr argloddiau amgylchynol. Mae argloddiau fel arfer yn cael eu hadeiladu gyda deunyddiau lleol, ac mae gan bob deunydd ei beryglon: gall tywod ddymchwel; mae mawn sych yn ysgafnach ond mewn perygl o fethu dal y dwr yn ystod y tymhorau sych. Mae rhai anifeiliaid yn tyllu twneli yn y cloddiau, ac mae hynny'n caniatau i'r dwr dreiddio'r strwythur; mae'r mwsglygoden yn cael ei hadnabod am y gweithgaredd hwn ac yn cael ei hela mewn rhai gwledydd Ewropeaidd o'r herwydd. Mae polderau gan amlaf i'w ganfod mewn aberoedd afonydd, tiroedd a fu unwaith yn gorstiroedd ac ardaloedd arfordirol.

Mae gorlifo polderau hefyd wedi'i ddefnyddio fel tacteg filwrol yn y gorffennol. Un enghraifft yw gorlifo polderau ar hyd afon Yser yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf. Trwy agor llifddorau ar lanw uchel a'u cau ar lanw isel, trowyd y polderau yn gorsydd anhygyrch er mwyn atal byddin yr Almaen.

Etymoleg golygu

O'r Iseldireg polder ("polder"), o Iseldireg Ganol polre, o'r Hen Iseldireg polra, ac yn y pen draw o pol- "rhan o dir, uwchlaw yr hyn sydd o'i amgylch"; gyda'r ôl-ddodiad cryfhaol -er a'r -d- epenthetigol.

Polderau a'r Iseldiroedd golygu

 
Gorsaf bwmpio yn Zoetermeer, Yr Iseldiroedd. Mae'r polder yn is na'r dwr sydd o'i amgylch ar ochr arall yr arglawdd. Mae'r sgriwiau Archimedes i'w gweld yn glir.

Mae'r Iseldiroedd yn cael ei chysylltu'n aml â pholderau, oherwydd i'w pheirianwyr ddod yn adnabyddus am ddatblygu technegau ar gyfer draenio corstiroedd a'u gwneud yn addas i'w amaethu a'u datblygu mewn ffyrdd eraill. Mae dywediad i'w gael: "Creodd Duw y byd, ond yr Iseldirwyr greodd yr Iseldiroedd[1]".

Mae gan yr Iseldirwyr hanes o adfer corstiroedd, ac maent wedi creu tua 3,000 o bolderau[2] o amgylch y byd. Erbyn 1961 roedd 6,800 milltir sgwar (18,000 km2), tua hanner tir y wlad, wedi'i adfer o'r môr.[3] Mae tua hanner holl arwynebedd polderau yng ngogledd-orllewin Ewrop yn yr Iseldiroedd. Adeiladwyd yr argloddiau cyntaf yn Ewrop yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Adeiladwyd y polderau cyntaf yn yr 11g.

O ganlyniad i drychindebau naturiol, cafodd byrddau dŵr - waterschap (pan maent wedi'u lleoli i mewn i'r tir) neu hoogheemraadschap (ger y môr, yn bennaf yn rhanbarth Holand)[4] - eu sefydlu i gynnal yr amddiffynfeydd dŵr o amgylch y polderau, i gynnal y dyfrffyrdd o fewn i'r polderau, ac i reoli lefelau'r dŵr tu fewn a thu allan i'r polder. Mae byrddau dŵr yn cynnal etholiadau ar wahan, yn codi trethi, ac yn gweithio yn annibynnol o gyrff llywodraeth. Nid yw eu pwrpas sylfaenol wedi newid hyd heddiw. Rhain felly yw'r sefydliadau democrataidd hynaf yn y wlad. Rhoddodd y cydweithio ar bob lefel i gynnal amddiffynfeydd polder ei enw i'r fersiwn Iseldireg o wleidyddiaeth y drydedd ffordd— y Model Polder.

Ysgogodd trychineb llifogydd 1953 ddull newydd o ddylunio argloddiau a strwythurau eraill o ddal dŵr yn seiliedig ar y risg o lifogydd derbyniol. Mae risg yn cael ei ddiffinio fel cynnyrch tebygolrwydd a chanlyniadau. Mae'r difrod posibl i fywydau ac eiddo ynghyd â chostau ailadeiladu yn cael eu cymharu a chostau posibl yr amddiffynfeydd dŵr. Mae hynny yn arwain at risg o lifogydd derbyniol o'r môr o 1 mewn 4,000 i 10,000 o flynyddedd, tra ei fod yn un mewn 100 i 2,500 o flynyddoedd ar gyfer llifogydd afon. Mae'r polisi yma, a'r data am fygythliadau, wedi rhoi arweiniad i lywodraeth yr Iseldiroedd wrth wella amddiffynfeydd rhag llifogydd.  

Cyfeiriadau golygu

  1. Interpreting Nature: The Emerging Field of Environmental Hermeneutics
  2. "Kijk naar de geschiedenis". Rijkswaterstaat. Cyrchwyd 2008-01-21.[dolen marw]
  3. Ley, Willy (1 Hydref 1961). "The Home-Made Land". For Your Information. Galaxy Science Fiction. tt. 92–106.
  4. "waterschap". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-02.