Hydroleg yw'r astudiaeth wyddonol o leoliad a symudiad dŵr ar wyneb y Ddaear neu drosti. Mae hydroleg yn ymwneud yn bennaf â bwrw (glaw, eira, cenllysg), ageriad a thrydarthu, a llif ffrydiau dŵr o bob math. Gelwir y broses naturiol sy'n cyfuno'r elfennau hyn y 'cylch hydrolegol', sy'n symudiad cylchynol o ddŵr o'r moroedd i'r atmosffer ac yn ei ôl.

Afon Tywi yn dirwyn ar draws Sir Gaerfyrddin rhwng Dryslwyn a Llanegwad
Yr Ail Groesfan Hafren dros aber Afon Hafren

Mae gan hydroleg lawer o ddefnydd ymarferol, e.e. i geisio rheoli gorlifad afonydd (modelu hydrolig) ac i gyflenwi dŵr ar gyfer y cartref, gweithfeydd, a ffermydd, yn ogystal â chynlluniau trydan hydroelectrig.

Mae'r system dalgylch hydrolegol yn cynnwys nifer o fewnbynnau, storfeydd, llifau ac allbynnau.

System Dalgylch Afon golygu

Dalgylch afon yw'r ardal sy'n cael ei ddraenio gan afon a'i llednentydd, neu yn syml, y llinell sy'n bosib ei thynnu o amgylch y brif afon a'i isafonydd. Mae'r symudiad dŵr drwy dalgylch afon yn rhan allweddol o'r cylchred hydrolegol byd-eang sef y cylchred parhaol o ddŵr rhwng y ddaear, môr a'r atmosffêr. Mae dyodiad yn trosglwyddo dŵr i wyneb y ddaear lle mae mwyafrif ohono'n naill ai'n ymdreiddio a'r graig wely, neu'n anweddu. O dan amodau eithafol mae'r dŵr yn medru llifo dros yr arwyneb fel dŵr ffo, cyn cyrraedd sianel afon a llifo ymlaen i'r môr.


Mae'r lliwiau isod yn allwedd i'r diagram

Mewnbynnau Llifau Storfeydd Allbynnau
Glaw Ymdreiddiad Pant/ Llynoedd Anweddiad
Eira Trylifiad Moroedd Trydarthiad
Cesair Llif trostir Lleithder Pridd
Eirlaw Trwylifiad Dwr Daear
Dyodiad Llif Gwaelodol Lleithder Atmosfferig
Ynni'r Haul Afon Rhewlif (neu maes eira)
 
Cylch ddŵr

Diffiniadau'r prosesau golygu

Rhyng-gipiad golygu

Gorchuddir y mwyafrif o dalgylchoedd afon gan rhyw fath o lysdyfiant, sy'n amrywio o lwyni a phrysg mewn ardaloedd lled-cras (semi-arid); glaswellt, a coedwigoedd conwydd. Gelwir pan mae dŵr yn cael ei atal wrth cyrraedd yr afon yn rhyng-gipiad. Mae rhyng-gipiad yn lleihau lefelau'r afon ac yn rhwystro erydiad tir.

Storio mewn pantiau golygu

Unwaith i ddŵr cyrraedd arwyneb y ddaear mae'n medru casglu mewn tyllau a phantiau gan ffurfio pyllau bach. Fe fydd y dŵr naill ai'n anweddu, ymdreiddio'n araf i'r pridd neu'n ffurfio llif trostir.

Trydarthiad golygu

Dyma yw'r broses lle mae planhigion yn rhyddhau dŵr trwy dyllau bach a elwir yn stomata oddi tan y dail. Mae hyn yn golled i'r system dalgylch afon.

Anweddiad golygu

Dyma yw'r broses pan mae dŵr yn gael ei golli o'r system.

Lleithder Pridd golygu

Mae gweadedd priddoedd yn amrywio yn fawr iawn. Pan fo pridd yn dirlawn ac yn cael ei adael i ddraenio dywedir fod yn dal ei gynhwysydd maes. Mesurir hyn mewn milimetrau.

Trwylif golygu

Dyma'r llif dŵr trwy'r pridd. Mae'r dŵr yn llifo i lawr y llethr yn parallel i arwyneb y ddaear.

Llif dŵr daear golygu

Os yw'r graig y wely yn anathraidd, bydd y dŵr yn trylifo'n araf iddo o'r pridd uwchlaw. Mae trosglwyddiadau dŵr daear yn araf dros ben, ac yn cymryd degau neu gannoedd o flynyddoedd.

Gweler hefyd golygu