Polisi cyhoeddus
Gweithgarwch llywodraethol gan adrannau gweinyddol a gweithredol y wladwriaeth i arwain polisi mewn maes penodol yw polisi cyhoeddus, a weithredir mewn modd sy'n gyson â'r gyfraith ac arferion sefydliadol. Mae'n cymryd ffurf cynlluniau, rhaglenni, mesurau rheoliadol, deddfau, a blaenoriaethau cyllido. Mae llywodraethau yn llunio polisïau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys addysg, arian, cyllid, gwyddoniaeth, yr amgylchedd, iaith, mewnfudo, a materion tramor.
Caiff polisi cyhoeddus hefyd ei astudio fel disgyblaeth academaidd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.