Pong yw un o'r gemau fideo arcêd cynharaf.[1] Mae'n gêm seiliedig ar denis bwrdd sy'n cynnwys graffeg dau ddimensiwn syml. I chware'r gêm mae chwaraewr yn rheoli padl (llinell ar y sgrin) drwy ei symud yn fertigol ar draws ochr chwith neu dde'r sgrin. Mae'n gêm i ddau chwaraewr lle fydd un yn cystadlu efo chwaraewr arall sy'n rheoli ail badl ar ochr arall y sgrin. Mewn rhai fersiynau mae modd chware fel unigolyn yn erbyn y peiriant. Mae chwaraewyr yn defnyddio'r padlau i daro pêl yn ôl ac ymlaen. Y nod yw i chwaraewr gyrraedd un ar ddeg o bwyntiau cyn y gwrthwynebydd; caiff pwyntiau eu hennill pan fydd un yn methu taro'r bel a'i dychwelyd i'r llall.

Sgrinlun Pong. Mae'r ddwy badl yn dychwelyd y bêl yn ôl ac ymlaen. Cedwir y sgôr gan y rhifau (0 ac 1) ar frig y sgrin.

Gynhyrchwyd y gêm yn wreiddiol gan gwmni Atari. Cafodd ei rhyddhau ym 1972.[2] Creodd Allan Alcorn Pong fel ymarfer hyfforddi a roddwyd iddo gan Nolan Bushnell, cyd-sylfaenydd Atari. Roedd Bushnell yn seilio'r syniad ar gêm ping-pong electronig a gynhwyswyd yn y consol Magnavox Odyssey. Fe wnaeth Magnavox erlyn Atari yn ddiweddarach am dorri patent.

Pong oedd y gêm fideo lwyddiannus gyntaf yn fasnachol, a helpodd i sefydlu'r diwydiant gemau fideo arcêd a thafarn ynghyd â'r gem consol cartref cyntaf, sef y Magnavox Odyssey. Yn fuan ar ôl ei ryddhau, dechreuodd nifer o gwmnïau gynhyrchu gemau a oedd yn copïo ei arddull chware, ac yn y pen draw rhyddhawyd mathau newydd o gemau. O ganlyniad, anogodd Atari ei staff i gynhyrchu gemau mwy arloesol. Rhyddhaodd y cwmni sawl dilyniant a oedd yn adeiladu ar arddull chware'r gwreiddiol trwy ychwanegu nodweddion newydd. Yn ystod tymor Nadolig 1975, rhyddhaodd Atari fersiwn cartref o Pong drwy siopau manwerthu Sears yn unig.

Mae Pong yn rhan o gasgliad parhaol Sefydliad Smithsonian yn Washington, D.C. oherwydd ei bwysigrwydd ddiwylliannol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Pong Game adalwyd 30 Mawrth 2019
  2. Killer List of Videogames adalwyd 30 Mawrth 2019

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: