Pont Grog Heol De Portland, Glasgow
pont yn Glasgow
Mae Pont Grog Heol De Portland yn bont grog ar gyfer cerddwyr ar draws Afon Clud yn Glasgow, yr Alban. Mae'n cysylltu canol y ddinas â Laurieston a’r Gorbals.
Math | pont grog |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Glasgow |
Sir | Dinas Glasgow |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.855°N 4.25556°W |
Cod OS | NS5890764723 |
Hyd | 126 metr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Gwnaethpwyd y bont gyda haearn bwrw a tyrrau tywodfaen.[1] Mae’n 414 troedfedd o hyd ac 13 troedfedd o led. Adeiladwyd y bont rhwng 1851 a 1853, gan ddisodli pont bren dros dro a gynlluniwyd gan Robert Stevenson.[2] Enwau eraill y bont yw Pont Plas Carlton a Pont Grog Glasgow. Mae’n adeilad rhestredig gradd A.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Canmore". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-30. Cyrchwyd 2020-12-22.
- ↑ Gwefan The Glasgow Story
- ↑ Gwefan Historic Environment Scotland