Porthladd Ros Láir

Porthladd a phentref yn Swydd Wexford (Gaeleg: Contae Loch Garman), Gweriniaeth Iwerddon, yw Porthladd Ros Láir (Gaeleg: Calafort Ros Láir;[1] Saesneg: Rosslare Harbour). Yn ddiweddar, ail-enwyd y porthladd yn Rosslare Europort yn Saesneg. Saif i'r de o gyrchfan lan môr Ros Láir (Saesneg: Rosslare Strand).

Porthladd Ros Láir
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Wexford Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2494°N 6.33812°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Ros Láir, sy'n gyrchfan lan môr gerllaw.

Ceir gwasanaethau fferi yn cysylltu'r porthladd ag Wdig (Abergwaun) a Doc Penfro yng Nghymru ac â Cherbourg a Roscoff yn Ffrainc.[2] Mae hefyd gysylltiad cludo nwyddau i Le Havre. Agorwyd yr orsaf rheilffordd ym 1906.[3]

Porthladd Ros Láir

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  2. Miles Cowsill (2006). Fishguard-Rosslare: The Official 1906-2006 Anniversary Book (yn Saesneg). Ferry Publications (Wales).
  3. "Rosslare Harbour" (PDF). Railscot – Irish Railways (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-09-26. Cyrchwyd 7 Medi 2007.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.