Pot inc
Cynhwysydd bach a ddefnyddir i ddal inc yw pot inc. Mae'r person sy'n ysgrifennu yn rhoi ei frwsh neu ysgrifbin yn y pot inc pan bo angen, neu yn defnyddio'r pot er mwyn llenwi cronfa inc ysgrifbin llenwi. Mae gan botiau inc caeadau colfachog neu sgriwgapiau i atal halogi, anweddu, tywallt, a datguddiad gormodol i aer. Yn aml caiff eu gwneud o wydr, porslen, arian, pres, neu biwter, ac mae rhai pobl yn eu casglu.