Mae porslen yn grochenwaith seramig tralosg (vitrified) gwyn a ddatblygwyd gan grochenwyr Tsieinëaidd o gwmpas y 9g. Nid darganfyddiad ydoedd, fel y cyfryw, ond pendraw proses hir o wneud crochenwaith ac arbrofi arno sy'n dechrau yn y canrifoedd cyntaf cyn Crist. Gelwir y crochenwaith carreg y datblygodd porslen ohono yn broto-borslen.

Porslen
Mathfine ceramic, pottery ware Edit this on Wikidata
Deunyddkaolin, petuntse Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y dduwies Daoaeth Xi Wang Mu, "Llysfam y Gorllewin" ar blât porslen Qing, tua 1725 (Amgueddfa Zwinger, Dresden)

Erbyn heddiw ceir tri math o borslen: porslen pâst caled neu borslen go iawn, porslen pâst meddal neu borslen artiffisial, a tsieni Seisnig (Bone China).

Mae porslen pâst caled yn cael ei gwneud o glai kaolin a charreg ffeldspathaidd (petuntse) wedi'u malurio'n bowdr mân a'u tanio hyd 1400 °C. Mae hyn yn ffurfio corff taniedig atseiniol gwyn tryloyw sy'n cael ei glésio â phowdr petuntse pûr yn ystod y tanio. Roedd y math yma o borslen yn cael ei wneud yn Siapan tua'r flwyddyn 1500 ond ni lwyddwyd i'w wneud yn y Gorllewin tan ddechrau'r 18g yn yr Almaen. Erbyn canol y ganrif roedd gweithdai porslen i'w cael yn Dresden, Plymouth a Bryste.

Mae porslen pâst meddal yn wahanol i borslen pâst caled am fod y clai kaolin yn cael ei gymysgu â fflwcs artiffisial; tywod gyda calch, callestr neu soda, er enghraifft. Mae'r cymysgedd yn cael ei danio i tua 1100 °C. Ychwanegir y glés, gwydr fel rheol, yn ystod yr ail danio i tua 1000 °C.

Mae tseini neu bone china yn ddarganfyddiad Seisnig o'r 18g sy'n defnyddio lludw esgyrn yn fflwcs.

Gweler hefyd

golygu