Urdd y Premonstratensiaid
(Ailgyfeiriad o Præmonstratensiaid)
Urdd Ganonaidd Gristnogol sy bellach yn rhan o'r Eglwys Gatholig yw Urdd y Premonstratensiaid. Fe'i gelwir felly am iddi gael ei sefydlu gan Sant Norbert yn Prémontré ym Mhicardi, Ffrainc yn 1120. Roedd yn urdd reolaidd a geisiai ddianc i lecynau diarffordd i arwain bywyd syml seiliedog ar egwyddorion mynachaeth gynnar ac mewn hynny o beth yn debyg iawn i Urdd y Sistersiaid. Y mam-dŷ yn Lloegr oedd Abaty Welbeck, a sefydlwyd yn 1153.
Enghraifft o'r canlynol | order of canons regular, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1120, 1121 |
Prif bwnc | lifestance organisation |
Yn cynnwys | canon regular |
Pennaeth y sefydliad | Abbot General of the Premonstratensian Canons |
Sylfaenydd | Norbert of Xanten |
Gwefan | http://www.premontre.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ei hunig abaty yng Nghymru oedd Abaty Talyllychau yn Sir Gaerfyrddin, a sefydlwyd gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn ail hanner yr 1180au.
Ni fu erioed yn urdd fawr y tu allan i Ffrainc. Erbyn heddiw ychydig iawn o dai Premonstratensiaidd sydd ar ôl; ceir y rhan fwyaf ohonyn nhw yng Ngwlad Belg.