Preiddeu Annwfn
Cerdd a geir yn Llyfr Taliesin yw Preiddiau Annwfn neu Preiddiau Annwn. Cerdd weddol fer ydyw, ac nid yw'r ystyr ymhobman yn hollol sicr, ond mae'n adrodd hanes ymgyrch gan Arthur a'i wŷr i Annwfn i gyrchu pair. Barn y mwyafrif o ysgolheigion yw ei bod yn dyddio o tua'r flwyddyn 900, felly mae'n un o'r ffynonellau cynharaf sy'n ymdrin ag Arthur.
Gellir casglu o'r gerdd ei hun mai Taliesin sy'n siarad ynddi. Dywed ei fod wedi cael ei ddawn fel bardd o bair hud. Dywed iddo deithio gydag Arthur a thair llongiad o'i wŷr i Annwfn, yn cynnwys Prydwen, llong Arthur, ond mai dim ond saith gŵr a ddychwelodd. Disgrifir pair brenin Annwn, na wnaiff ferwi bwyd i lwfrddyn. Nid oes eglurhad beth ddigwyddodd fel mai dim ond saith o'r cwmni a ddychwelodd.
Ceir hanes tebyg yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae Arthur a'i wŷr yn hwylio i Iwerddon i gael pair Diwrnach Wyddel. Yn Culhwch ac Olwen, lladdir Diwrnach gan Llenlleawc Wyddel, a cheir cyfeiriad at "Lleawch" a "Lleminawc" yn Preiddiau Annwn. Cred rhai ysgolheigion y gellir uniaethu'r cymeriadau yma. Mae'r Pair Dadeni yn bair sy'n gallu adfywio celanedd y meirw. Mae'r Pair Dadeni yn chwarae rhan bwysig yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi.
Nododd R. S. Loomis debygrwydd rhwng yr hanes am gaer o wydr ac amddiffyniad gan 6,000 o filwyr yn Preiddiau Annwn a hanesion tebyg yn y Lebor Gabála Érenn o Iwerddon a'r Historia Britonum. Awgrymodd rhai ysgolheigion fod cysylltiad rhwng yr hanes yn Preiddiau Annwn a'r chwedlau diweddarach am y Greal Santaidd.