Prifysgol breifat a leolir yn Denver, Colorado, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Denver (Saesneg: University of Denver). Dyma'r brifysgol hynaf yn nhalaith Colorado.

Prifysgol Denver
Mathprifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, prifysgol breifat Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDenver, Colorado Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau39.678333°N 104.962222°W Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganUnited Methodist Church Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Coleg Diwinyddol Colorado ym Mawrth 1864 gan John Evans, Llywodraethwr Tiriogaeth Colorado, a oedd yn fab i fewnfudwyr o Gymru. Rhodd Evans bedair llain o dir cyferbyn â'i dŷ, yn strydoedd Fourteenth ac Arapahoe yn Denver, i ddarparu safle ar gyfer campws y coleg.[1] Rheolwyd y coleg diwinyddol gan Eglwys y Methodistiaid Unedig, sydd yn dal yn gysylltiedig â Phrifysgol Denver; fodd bynnag, nid sefydliad addysg enwadol mohono. Dyrchafwyd y sefydliad yn brifysgol ym 1880, gyda statws di-dreth a'r hawl i wobrwyo graddau israddedig.[2] Ym 1890, sefydlwyd campws newydd yn ne-ddwyrain y ddinas, eto ar dir a roddwyd gan Evans, a dyna safle bresennol y brifysgol.[1] Dechreuodd Prifysgol Denver gynnig addysg i fyfyrwyr uwchraddedig ym 1891.[2]

Mae Prifysgol Denver yn cynnig cyrsiau israddedig ac uwchraddedig yn y celfyddydau a'r gwyddorau, ac mewn pynciau proffesiynol megis seicoleg, peirianneg, busnes, gwaith cymdeithasol, a'r gyfraith. Mae cyfadrannau ac chanolfannau ymchwil y brifysgol yn cynnwys yr ysgol fusnes, yr ysgol astudiaethau rhyngwladol, Ysgol Gerdd Lamont, Coleg y Menywod, Sefydliad Defnydd Tir y Mynyddoedd Creigiog, y Ganolfan Ymchwil i Fabanod a Phlentyndod, y Ganolfan Datblygu Hawliau, ac Arsyllfa Meyer-Womble a leolir ar Fynydd Evans, un o'r arsyllfeydd seryddol uchaf yn y byd.[2]

Ymhlith y cyn-fyfyrwyr nodedig o Brifysgol Denver mae'r newyddiadurwr a darlledwr Lowell Thomas, y banciwr ac economegydd David Malpass, y diplomydd ac academydd Condoleezza Rice, a'r dramodydd Neil Simon.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Governor John Evans", History Colorado. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) University of Denver. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2022.