David Malpass
Economegydd a banciwr Americanaidd yw David Robert Malpass (ganed 8 Mawrth 1956) a wasanaethodd yn Llywydd Banc y Byd o 2019 i 2023.
David Malpass | |
---|---|
Llun swyddogol Banc y Byd o David Malpass. | |
Ganwyd | 8 Mawrth 1956 Petoskey |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd |
Swydd | Llywydd Banc y Byd |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Adele Malpass |
Perthnasau | Herman Obermayer, Neville Levy, Marc Gilbert |
Gwefan | http://www.growpac.com/ |
Gweithiodd yn Adran y Trysorlys dan weinyddiaethau'r Arlywyddion Ronald Reagan a George H. W. Bush. Gweithiodd yn swydd prif economegydd y banc Bear Stearns am 15 mlynedd hyd at yr argyfwng ariannol yn 2008. Cafodd ei feirniadu am ysgrifennu sawl erthygl i'r Wall Street Journal ar bynciau economaidd, gan gynnwys un yn Awst 2007 a ragdybiai na fyddai'r cwymp yn y farchnad dai a dyledion y banciau yn effeithio ar yr economi. Wedi iddo ymddiswyddo o Bear Stearns, sefydlodd Malpass y busnes ymchwil Encima Global, a fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr i sawl cwmni ariannol. Dychwelodd Malpass i Adran y Trysorlys yn Awst 2017 yn swydd is-ysgrifennydd dros faterion rhyngwladol.[1]
Fe'i enwebwyd ar gyfer llywyddiaeth Banc y Byd gan yr Arlywydd Donald Trump yn Chwefror 2019, wedi i Jim Yong Kim ymddiswyddo.[2] Fe'i ddetholwyd gan fwrdd cyfarwyddwyr gweithredol Banc y Byd ar 5 Ebrill, a dechreuodd yn y swydd ar 9 Ebrill.[3] Yn Chwefror 2023 cyhoeddodd Malpass ei fod am ymddiswyddo o'r llywyddiaeth, ac fe'i olynwyd gan Ajay Banga ar 2 Gorffennaf 2023.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "David Malpass: Who is Trump's pick for World Bank president?", BBC (6 Chwefror 2019). Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.
- ↑ (Saesneg) "Trump backs World Bank critic Malpass for top job", BBC (6 Chwefror 2019). Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.
- ↑ (Saesneg) "David Malpass", Banc y Byd. Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.