Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe
Mae Prifysgol Ynysoedd Ffaröe (Ffaroeg: Fróðskaparsetur Føroya) yn brifysgol wladwriaethol ar gyfer Ynysoedd Ffaröe a leolir yn y brifddinas, Tórshavn. Ffaroeg yw prif iaith weinyddol y brifysgol ac addysgir y myfyrwyr mewn Ffaroeg, Daneg a Saesneg.
Math | prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tórshavn |
Sir | Tórshavn Municipality |
Gwlad | Ynysoedd Ffaröe |
Cyfesurynnau | 62.01°N 6.78°W |
Ni ddylir ei gymysgu gyda Choleg Trydoddol a Galwedigaethol newydd yr Ynysoedd, Coleg Glasir a agorwyd yn Awst 2018 sydd hefyd wedi lleoli yn y brifddinas.
Hanes
golyguMae hanes y brifysgol yn estyn nôl at Gymdeithas Wyddonol Ffaröe (Føroya Fróðskaparfelag), a sefydlwyd ym 1952.[1] Prif amcan y Gymdeithas oedd i greu canolfan ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil yn Ynysoedd Faröe. Ar adeg sefydlu'r brifysgol dim ond un athro oedd: Christian Matras, a fu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Copenhagen.
Heblaw am y cyrsiau blynyddol i fyfyrwyr yn Ffaraoeg a hanes naturiol, trefnodd y brifysgol ddarlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau nos yn yr iaith. Dechreuodd Prifysgol Ynysoedd Ffaröe hefyd ymwneud â dysgu ac astudio llên gwerin a threftadaeth ddiwylliannol.
Mae'r brifysgol yn cynnig addysg ar lefel PhD, graddedigion ers 1996.
Cyfredol
golyguMae corff y myfyriwr yn fach, gyda bron i 1,000 o fyfyrwyr.[2] Mae'r brifysgol yn trefnu cystadleuaeth traethawd hir yn agored i bob myfyriwr. Iaith addysgol y brifysgol yw Ffaroeg, gan ei gwneud yn yr unig brifysgol yn y byd i gynnal dosbarthiadau yn swyddogol yn yr iaith honno. Mae'r brifysgol yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Copenhagen a Phrifysgol Gwlad yr Iâ ar gyfer prosiectau ymchwil ac mae'n aelod o UArctic (Prifysgol yr Artig).
Ceir Deg Adran:[3]
- Swyddfa Weinyddu Ganolog
- Gwasanaeth Canolog i Fyfyrwyr
- Swyddfa Ryngwladol
- Adran Iaith a Llenyddiaeth Ffaroeg
- Adran Addysg
- Adran Hanes a Gwyddorau Cymdeithasol
- Adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Adran Gwyddor Iechyd
Is-radd
golygu- BA Iaith a Llenyddiaeth
- BSc Hanes
- BSc Dadansoddi a Chynllunio Cymdeithasol
- BSc Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeh (gwyddor gweleidyddiaeth)
- Bagloriaeth Addysg mewn Addysg gyda Thystysgrif Ysgol Cynraedd ac Uwchradd
- Bagloriaeth Addysg mewn Addysg Gymdeithasol gyda Thystygrif Gwyddor Addysg
- BSc Nyrsio
- BSc Peirianyddu Meddalwedd
- BSc Bioleg
- BSc Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
- BA Y Gyfraith - Yn Ebrill 2019 datganwyd bod y brifysgol am ddechrau cynnig gradd yn y Gyfraith yn nhymor yr hydref 2019.[4]
Ôl Radd
golygu- MA y Iaith a Llên Ffaroeg
- Meistr yn y Gyfraith
- Gradd Meistr mewn cyd-weithrediad gyda Phrifysgol yr Ynys Las, Prifysgol Akureyri (Gwlad yr Iâ), Prifysgol Gwlad yr Iâ a Phrifysgol Nordland.[4][6][7][8]
- MA/MSc Astudiaethau Gorllewin Nordic, Llywodraethiant a Rheolaeth Hunangynhaliol
For 2018 roedd 1,000 o fyfyrwyr, 144 o staff academaidd a gweinyddol a 24 gradd ar gael.[2]
Gwasg Prifysgol Ffaroe
golyguSefydlwyd Gwasg Prifysgol Faroe - Fróðskapur - yn 2005.[5] Mae'n cyhoeddi gwaith o bob maes gwyddonol yn Ynysoedd Ffaröe. Mae'r cyhoeddiadau yn Ffraroeg, Saesneg a Daneg. Mae Wasg yn parhau â thraddodiad cyhoeddi Cymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroeaidd o gyfnod 1952-2005. Mae'r Wasg yn eiddo i Brifysgol yr Ynysoedd Ffaroe a Chymdeithas Gwyddoniaeth a Llythyrau Ffaroeaidd.
Mae tair cyfres o gyhoeddiadau:
- Annales Societatis Scientiarum Faeroensis - Supplementa. Mae'r gyfres hon yn cynnwys traethawd ymchwil doethurol a chyhoeddiadau eraill sy'n cael eu hadolygu gan arbenigwyr - cyhoeddwyd 59 o lyfrau yn y gyfres hon ers 1952
- Fróðskaparrit - adolygiad blynyddol gydag erthyglau yn Saesneg yn bennaf ym maes gwyddorau naturiol, yn Ffaroeg neu Daneg ym maes y dyniaethau. Mae 60 rhifyn wedi'u cyhoeddi ers 1952
- Cyhoeddiadau eraill - adroddiadau cynhadledd, festschrifts a chyhoeddiadau gwyddonol eraill
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "The history". University of the Faroe Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2014. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ 2.0 2.1 https://www.setur.fo/en/
- ↑ https://www.setur.fo/en/the-university/departments/[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-03. Cyrchwyd 2019-04-03.
- ↑ https://www.setur.fo/en/the-university/faroe-university-press/