Agor y brif ddewislen

Tórshavn (Daneg: Thorshavn) yw prifddinas a threflan fwyaf Ynysoedd Ffaröe, sy'n genedl o fewn Teyrnas Denmarc a sydd wedi ei lleoli'n ddaearyddol rhwng Norwy, Yr Alban a Gwlad yr Iâ. Lleolir Tórshavn ar lan ddwyreiniol ynys Streymoy. I'r gogledd orllewin gowedda'r mynydd 347-meter (1,138 ft) o uchder, Húsareyn, ac i'r de orllewin, y mynydd 350-meter (1,150 ft) o uchder, Kirkjubøreyn. Poblogaeth y dre ei hun yw 13,000 (2008) ond mae ardal drefol ehangach oddeutu 19,000.

Tórshavn
Thorshavn
Hen dref Tinganes, Tórshavn
Hen dref Tinganes, Tórshavn
Arfbais Tórshavn
Arfbais
Llysenw: Havn
State  Brenhiniaeth Denmarc
Rhan o wlad arall Nodyn:Country data Ynysoedd Ffarö
Ardal fetropolitan Tórshavn Insigna.svg Tórshavnar kommuna
Gwladychwyd 10fed ganrif
Tref 1909
Llywodraeth
 • Maer Heðin Mortensen (Javnaðarflokkurin)
Arwynebedd
 • Tir 172.9 km2 (66.8 mi sg)
Uchder 24 m (79 tr)
Poblogaeth (1 Ionawr 2015)
 • Dinas 12,648
 • Dwysedd 78/km2 (200/mi sg)
 • Metro 20,015[1]
 • Dwysedd metropolitanaidd 125/km2 (320/mi sg)
  Safle o ran poblogaeth: 1af
Côd post FO-100, FO-110
Website torshavn.fo

Sefydlodd y Llychlynwyr senedd ar benrhyn Tinganes yn 850 OC.[2] O'r dyddiad hynnny, Tórshavn oedd prifddinas yr ynysoedd ac mae wedi aros felly ers hynny. Yn ystod yr Oesoedd Canol, y penrhyn gul ganol oedd prif ran Tórshavn. Tórshavn hefyd oedd canolfan masnach monopoli'r ynysoedd a gan hynny, yr unig le y gallai'r ynyswyr brynu a gwerthu nwyddau'n gyfreithiol. Cafwyd gwared ar y monopoli yn 1856 a gyda hynny roedd yr ynysoedd yn rhydd i fasnachu'n agored.

Cynnwys

Hanes cynnarGolygu

 
Tórshavn 1839.

Ni wyddir os bu i'r mynachod Celtaidd a ymsefydlodd gyntaf ar Ynysoedd y Ffaröe, aneddu yn yr ardal a enwir heddiw yn Torshavn. Ymsefydlodd y Llychlynwyr ar yr ynysoedd yn y 9g. Roedd yn arferol ganddynt gynnal cynulliad mewn gwahanol rannau o'r ynysoedd. Roedd yn draddodiad ganddynt i gynnal y cynulliad neu senedd yma, tings, mewn lle niwtral a di-boblogaeth fel na chai neb fantais dros eraill. Cynhaliwyd y prif ting i'r ynysoedd yn Tórshavn yn 825, ar Tinganes, y penrhyn sy'n rhannu'r harbwr yn ffwy ran, Eystaravág ("ffordd ddwyreiniol") a Vestaravág ("ffordd orllewinnol"). Byddai'r Llychlynwyr felly'n cwrdd bob haf a darnau o graig gwastad. Dyma oedd y darn mwyaf canolog i'r ynysoedd er nad oedd aneddiad ar y Tinganes ar y pryd. Dywed y Færeyinga Saga: "lleoliad ting y Ffaröwyr ar Streymoy, a ceir harbwr yno a elwir yn Tórshavn". Daeth oes y Llychlynwyr i ben yn 1035. Datblygwyd marchnad o'r ting a dyfodd gydag amser i fod yn ardal masnachu.

Trwy gydol yr Oesoedd Canol y penrhyn bychan oedd craidd Tórshavn. Yn wahanol i bentrefi eraill yr ynysoedd bu Tórshavn byth yn gymuned amaethyddol. Yn ystod y 12fd ganrif, roedd holl masnach rhwng Norwy a'r Ynysoedd y Ffaröe a'r ynysoedd eraill i'r gorllewin wedi eu canoli yn Bergen yn Norwy. Yn 1271 sefydlwyd monopoli masnach yn Tórshavn gan Goron Norwy. Yn ôl dogfen o 1271, hwyliau dau long yn gyson rhwng o Bergen i Tórshavn gyda chargo o halen, coed a grawn. Roedd gan Tórshavn felly fwy o gyswllt gyda'r byd na'r pentrefi eraill. O dan reolaeth Norwy ac yna Denmarc yn Tórshavn yr ymsefydlodd swyddogion y goron. Byddai'r holl ffactorau hyn yn ogystal â lleoliad y Ting yn sicrhau datblygiad y pentref fel priffinas yr Ynysoedd.

1500–1800Golygu

Nid yw ffynnonellau'n sôn am ardal drefol i Tórshavn nes wedi'r Diwygiad Protestanaidd yn 1539.

Oddeutu 1580 adeiladwyr caer bychan, Skansin, gan yr arwr forwrol a masnachwr Ffaröeg, Magnus Heinason ar ochr ogleddol yr harbwr. Adeiladwyr yn hwyrach ymlaen amddiffynfeydd bychan ar Tinganes.

 
Skansin a ailadeiladwyd sawl gwaith ers y tro cyntaf yn 1580 a'r tro ddiwethaf yn 1790. Mae'r ddelwedd hon o 2004.

Yn 1584 roedd gan Tórshavn boblogaeth o 101 person. Rhannwyd y boblogaeth fewn i tair rhan tebyg o ran maint: amaethwyr ei teuluoedd a'i gweision; swyddogion masnach a llywodraeth; a'r drydedd rhan, gwerin heb dir gan gynnwys proletariat o'r pentrefi a ddaeth i Tórshavn i edrych am waith. Danfonwyd y bobl yma i warchod Skansin heb dâl ac roeddent yn ddibynnol ar haelioni ffermwyr am eu bwyd a dillad.

Yn 1655 rhoddodd y brenin Frederick III o Ddenmarc (rheolwr Ynysoedd y Ffaröe) yr ynysoedd i'w holl wleidydd, Kristoffer Gabel. Adnebir teyrnatiad y teulu von Gabel Family, 1655–1709, fel y Gablatíðin. Dyma gyfnod tywyllaf hanes Tórshavn. Rhoddwyd monopoli masnach yn nwylo'r teulu a bu rheoli llym ar y nwyddau a ddaw i fasnachu i'r Ynysoedd a'r pris gallai'r Ynyswyr ei gael am eu cynnyrch. Gabel's administration suppressed the islanders in various ways. The trade monopoly was in the family’s hands and it was not designed for the needs of the Faroese people. Bu cwyno cyson am y rheolaeth llwgr. Yn ystod y cyfnod hwn, yn 1673, llosgwyd y Tinganes gan dân wedi i sorfa powdr gwn a gadwyd yno ffrwydro. Llosgwyd nifer o hen dai i'r llawr a collwyd nifer o hen gofnodion yr Ynysoedd gan gynnwys dogfennau'r teulu Gabel.

Gwellwyd amgylchiadau yn Tórshavn wedi i'r monopoli masnach ddod yn fonopoli frenhinol yn 1709. Cyflenwyd y drefn gan nwyddau o Copenhagen tair gwaith y flwyddyn. Yn 1709, bwriwyd Tórshavn gan bla o'r frech wen, gan ladd bron y cyfan o'r boblogaeth, rhyw 250 person allan o boblogaeth o 300. Serch hynny, yn ystod y ganrif dechreuodd Tórshavn ddatblygu'n dref fechan. Yn ystod y cyfnod yma daeth Niels Ryberg yn gyfrifol am y monopoli masnach. O 1768 ac am yr 20 mlynedd nesaf, gadwyd i Ryberg ddatlygu entrepot wedi ei seilio gan mwyaf ar smyglo i Loegr yn sgil y rhyfeoledd rhwng Prydain a Ffrainc. Llenwodd y storysau â newyddau a Ryberg oedd y person cyntaf i weld bod modd gwneud elw o bysgota. Arbrofodd gyda halltu penfras a phenwaig ond daeth fawr ddim o'r fenter yn y cyfnod yma.

Cadeirlan Tórshavn a adeiladwyd gyntaf yn 1788 ac ail-adeiladwyd yn rhannol yn 1865. Ers 1990, bu'n sedd Esgob Ynysoedd y Ffaröe.

 
Tórshavn 1864, mae'r Løgting yn y chwith dop
 
canol Tórshavn, gyda the cathedral a stryd Bryggjubakki (chwith) a stryd Undir Bryggjubakka (dde).
 
Harbwr Fferi Tórshavn, golygfa tuag ag Tinganes a 'Vesturbýur' Y Dref Newydd.

1800 i'r presennolGolygu

Ar 30 Mawrth 1808, daeth y llong ryfel HMS Clio i Tórshavn gan gipio'r gaer Skansin am gyfnod byr. Difethwyr gynnau 18-pwys y gaer a dygwyd yr dryllai llai. Yn fuan wedyn, wedi 6 Mai, rheibiwyd y dref di-amddiffyn gan leidr-filwr Almaenig a ddefnyddiau'r enw "Baron von Hompesch" a cipiodd eiddo Monopoli Coron Denmarc.

Daeth masnach rydd i Ynysoedd y Ffaröe yn 1856. Agorwyd yr ynysoedd ac fe wedd-newidiwyd yr economi a Tórshavn. Rhentiwyd y tir amaeth i bobl y dref oedd nawr yn gallu ei brynu hefyd. Bendithwyd y bobl gan y y plotiau bychain yma o dir gan bod modd iddynt gadw rhai buchod a defaid.

Yn 1866, sefydlwyd cyngor tref Tórshavn a bu'r dref yn brifddinas Ynysoedd y Ffaröe ers hynny. Yn 1909 daeth Tórshavn yn dref farchnad gyda'r un siarter trefol â threfi marchnad eraill yn Nenmarc.

Yn 1927 adeiladwyd harbwr fodern yn Tórshavn. Galluogwyd i longau mwy lanio yno.[3]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi goresgyniad Denmarc gan y Naziaid, meddiannwyd Ynysoedd y Ffaröe gan luoedd Prydain oherwydd eu lleoliad pwysig ar i Fôr Tawch a'r Iwerydd. Defnyddwyd Skansin unwaith eto fel canolfan filwrol y tro yma fel pencadlys Command y Lynges Frenhinol Brydeinig.

Yn 1974 gwnaethowyd dau bentref gyfagos, Hoyvík a Hvítanes yn faestrefi i Tórshavn. Yn 1978 ychwnaegwyd pentrefi eraill, Kaldbak (1997) Argir (2001), Kollafjørður ac yn 2005, Kirkjubøur, Hestur, a Nólsoy.

Gwleidyddiaeth a llywodraethGolygu

Tórshavn yw prifddinas Ynysoedd y Ffaröe a dyma leoliad ei llywodraeth ddatganoledig, sy'n rhan o Teyrnas Denmarc. Mae ganddi ei senedd ei hun, y Løgting sydd â phwerau'n gryfach na Chymru. Lleolir rhan o weinyddiaeth y Llywodraeth ar benrhyn Tinganes yn Tórshavn ac roedd swyddfa'r Prif Weinidog a Gweinyddiaeth Fewnol yma nes 2013. Lleolir y swyddfeydd eraill ar draws y brifddinas. e. e. Gweinidogaeth Iechyd[4] Gweinidogaeth Materion Cymdeithasol[5] ger Ysbyty Ynysoedd y Ffaröe yn Eirargarður, a lleolir Gweinidogaeth Cyllid yn Argir mewn adeilad a elwir yn Neuadd Albert stryd Kvíggjartún.[6] Mae'r senedd, y Løgting, a oedd yn wreiddiol ar y Tinganes, bellach wedi ei ad-leoli i sgwâr y dre, Vaglið, ers 1856.

HinsawddGolygu

Oherwydd effaith Llif y Gwlff mae Tórshavn yn derbyn hafau lled-oer ond gaeafau mwyn lle nad yw'r tymheredd fel arfer yn is na'r rhewbynt. Mae Tórshavn ymysg un o'r llefydd mwyaf cymylog yn y byd, gyda heulwen sylweddol cyn-lleied â 2.4 y dydd.

ChwaraeonGolygu

 
Ras gychod gwyl Jóansøka yn Tvøroyri yn Mehefin 2011.

Tórshavn, yw canolfan chwaraeon yr Ynysoedd. Lleolir y stadiwm bêl-droed fwyaf y, Tórsvøllur, yno sydd â seddi i 6,000 o bobl. Dyma'r stadiwm genedlaethol a chartref Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Ynysoedd y Ffaröe.

Ceir sawl clwb yn y dref sy'n chwarae yn Uwch-gynghrair Ynysoedd y Ffaröe: HB Tórshavn, B36 Tórshavn ac Argja Bóltfelag. Pêl-llaw yw ail chwaraeon mwyaf poblogaidd y dref. Enwau timau'r dref yw: Kyndil, Neistin a Ítróttafelagið H71. Mae gan Tórshavn hefyd sawl tîm rhwyfo poblogaidd gan gynnwys: Havnar Róðrarfelag a Róðrarfelagið Knørrur.[7]

Cynhelir Cystadleueth Seiclo pob mis Gorffennaf yn yr Ynysoedd. Enw'r Ras yw Kring Føroyar (Tour de Faroe / Around the Faroes), ac mae'n dechrau yn Klaksvík a gorffen yn Tórshavn.[8]

CerddoriaethGolygu

Cynhelir Gŵyl Jazz Tórshavn yn flynyddol ers 1983 ac mae'n denu cerddorion a thwristiaid o Ogledd America ac Ewrop.

DigwyddiadauGolygu

Un o brif ddigwyddiadau calendr Tórshavn, a'r Ynysoedd yw Ólavsøka sef dathliad Nawddsant Ynysoedd y Ffaröe, Sant Olaff. Cynhelir Ólavsøka yn flynyddol ar 29 Gorffennaf ond ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at hynny. Uchafbwynt y dathliad yw gorymdaith gan bwysigion, cerddorion ac athletwyr drwy'r dref ar ddiwrnod y nawddsant. Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio'r orymdaith gan deithio o rannau eraill o'r wlad at yr achllysur.

TrafnidiaethGolygu

 
Map o Tórshavn yn dangos cysylltiadau ffyrdd

Mae'r harbwr yn cynnal gwasanaeth fferi ryngwladol Smyril Line sy'n cysylltu Denmarc a Gwlad yr Iâ. Mae'r harbwr hefyd yn cynnwys gwasanaeth fferi mewnol yr Ynysoedd, Strandfaraskip Landsins sy'n hwylio gan mwyaf i Tvøroyri.

Ceir gwasanaeth bwrs Bussleiðin o fewn y dref. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cysylltu gyda phentrefi a threfi eraill Ynysoedd y Ffaröe.

Lleoliad Hofrenfa yn y dref ac Awyrfa Vágar yw'r maes awyr agosaf.

Safloeodd o ddiddordebGolygu

 
Listasavn Føroya ar stamp genedlaethol, 1995.
  • Tinganes, hen ran y dref sydd dal i gynnwys tai o bren gyda to o laswellt. Mae'r hynaf yn 500 mlwydd oed.
  • Cadeirlan Tórshavn, yr eglwys ail hynaf yn y wlad.
  • Harbwr Tórshavn.
  • Caer Skansin, safle hanesyddol yn dyddio o'r 16g.
  • Listasavn Føroya, amgueddfa gelf yr Ynysoedd.
  • Y brif eglwys, Vesturkirkjan, gyda gwaith allanol gan Hans Pauli Olsen.
  • Y Tŷ Nordig, un o sefydliad ddiwylliannol bwysicaf yn Ynysoedd Ffaröethe.
  • Amgueddfa Hoyvík.
  • Amgueddfa Hanes Naturiol gyda gardd fotenegol bychan a 150 planhigyn Ffoaraidd.
  • Niels Finsens gøta, unig stryd bedestraneiddedig y ddinas.

Sefydliadau yn TórshavnGolygu

  • Løgting, Løgtingið a Llywodraeth Ynysoedd y Ffaröe, y Landstýrið.
  • Kringvarp Føroya, Gwsanaeth Radio a Theledu genedlaethol dan berchnogaeth gyhoeddus.
  • Prifysgol Ynysoedd Ffaröe sy'n cynnwys yr Archifdy Genedlaethol, y Coleg Forwrol a Choleg Athrawon.
  • Postverk Føroya, gwasanaeth post Ynysoedd y Ffaröe.
  • Glasir, prif goleg trydoddol a galwedigaethol y genedl
  • Mae gan Gwlad yr Iâ Gonswl Gyffredinnol yn Tórshavn.

OrielGolygu

GyfeilltrefiGolygu

Gyfeillir Tórshavn â:

CyfeirnodauGolygu

Ffynonellau eraillGolygu

  • Havsteen-Mikkelsen, Sven (1995) Føroyinga søga (Bjarni Niclasen, týddi; Jørgen Haugan, skrivaði eftirmæli. Tórshavn: Føroya skúlabókagrunnur)

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: